ATGOFION A LLWYBRAU DIGIDOL YN NE PATAGONIA

Mae'r prosiect hwn yn cyfuno arloesedd a mewnwelediadau digidol o ymchwil ethnograffig a hanesyddol i ddatblygu llwyfan symudol a fydd yn galluogi grwpiau o bobl frodorol sydd â diffyg adnoddau yn Ne Patagonia'r Ariannin i 'adfer' ac ailfeddiannu delweddau (yn ddigidol) o'u cyndeidiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu cadw mewn stordai sefydliadau metropolitan.

Gyda chyllid escalator, datblygodd y tîm brototeip o lwyfan ddigidol i gysylltu aelodau cymunedol â delweddau cyndadol drwy eu gwasanaethau digidol eu hunain. Teithiodd Geraldine i Batagonia i gynnal gweithdai ar gampws Rio Gallegos UNPA gyda'r gymuned leol i barhau â'r broses gydlunio.  Roedd y gweithdai yn hynod lwyddiannus a chynhyrchiwyd rhagor o ddiddordeb ym Mhrifysgol Magallaes a Phrifysgol Rio Negro i gyflwyno gweithdai cyffelyb yn sgil y gweithdai hyn.  Fel rhan o'r daith, ymwelsant hefyd â sefydliadau a oedd yn cadw archifau ffotograffau i gasglu cynnwys i'r platfform. Dywedodd Sefydliad Patagonia fod ganddynt luniau yn eu harchifau yr hoffant eu dychwelyd i'r gymuned; maent yn teimlo bod ffiniau wedi rhannu'r gymuned ers peth amser a bydd hyn yn arddangos ailuno.  Caiff rhannu lluniau sydd ym 'mherchnogaeth y dalaith' ei ystyried yn wleidyddol hanesyddol ond nid yn fygythiol ac fe'i hystyrir yn gam adeiladol ac yn ffordd o adeiladu perthynas gadarnhaol â'r dalaith.

Ar ôl y gweithdai cychwynnol hyn, cafodd y llwyfan ei lansio a bydd adborth yn cael ei gasglu mewn perthynas â phrofiad y defnyddiwr ac ymarferoldeb y platfform. Bydd hyn yn ffurfio rhan o gynnig pellach.

Yn ogystal, cafodd Geraldine gyllid symudedd i ymweld ag Archifau'r Sefydliad Berlin Ibero-American i weld lluniau o bobl frodorol Patagonia mewn pum casgliad gwahanol.