Student working in lab, looking at a monitor
Car factory, welding robot
Inside the Computational Foundry

Mae arweinyddiaeth y Ganolfan, yn hynod brofiadol mewn, ac yn cefnogi dulliau hyfforddi ymchwil newydd a chreadigol sy'n gallu annog meddwl traws-ddisgyblaethol, creu ar y cyd ac aflonyddgar.

Bydd eich profiad yn ein Canolfan ymhell o'r "norm": byddwch yn  datblygu eich hunan ac eraill i fod yn rhywbeth sydd nid yn unig yn "garfan" o fyfyrwyr, ond hefyd, yn fudiad, gweithredol, dynamig a grymusol sydd ag ysfa i wneud gwyddor ragorol gyda phwrpas ac effaith.

Bydd yr hyfforddiant yn datblygu fel rhaglen 4 blynedd - mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cwrs Meistr integredig i helpu carfanau ennill y sylfeini i'w gwaith PhD. Mae'r cwrs Meistr hwn yn cynnwys modiwlau mewn dulliau dynol-ganolog, dysgu peiriannau, rhagfarn a bendithion data, technolegau rhyngweithiol a gweledol ac ystod o fodiwlau dewisol sy'n edrych ar y defnydd o systemau AI a systemau a gludir gan ddata yn ein cyd-destunau heriol (e.e. ar gyfer Ffatri'r Dyfodol; meddygaeth; a'r Gyfraith).  

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio eich prosiect ymchwil a thrwy gydol eich 4 blynedd gyda ni, byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ysgogol ac arloesol i'ch helpu i ymestyn a chymhwyso'ch meddwl. Bydd y rhain yn cynnwys: pyllau tywod, enciliadau, ymweliadau rhyngwladol, prosiectau ychwanegol a secondiadau. Bydd arloesedd cyfrifol yn cael ei archwilio'n ymarferol a'i hyrwyddo yn ein holl waith.

Mae'r Ffowndri Gyfrifiadol, Canolfan Economi Ddigidol CHERISH a'r asedau rhanbarthol ehangach yn darparu'r sylfeini ar gyfer amgylchedd hyfforddi cyfoethog a chefnogol. Fel un o fyfyrwyr ein CDT byddwch yn cael eich lleoli ar Gampws y Bae yn adeilad arloesol y Ffowndri Gyfrifiadol sy'n cynnig amrywiaeth gyfoethog o labordai pwrpasol (lab gwneud, lab damcaniaeth, lab diogelwch, lab profiad defnyddiwr, lab biometreg a gweledigaeth, lab delweddu, lab IoT). Yn ogystal, mae gan y Ffowndri fannau cydweithio a rhyngweithio pwrpasol a fydd yn cael eu defnyddio i ddod â'r carfan(au) ynghyd mewn cyd-destunau hyfforddi newydd. Bydd y Ganolfan hefyd yn cydlynu'r asedau eraill sydd ar gael i garfanau o fyfyrwyr, gan gynnwys:

  1. Cyfleuster Gwyddor Data sy'n dod ag adnoddau iechyd a lles allweddol ynghyd. Mae'r mentrau hyn yn hyrwyddo defnydd moesol a chyfrifol o ddata a bydd eu profiad o wneud ymchwil dibynadwy a chredadwy yn adnodd amhrisiadwy i'n myfyrwyr. Bydd y prosiect Uwchgyfrifiadura Cymru (y mae Abertawe yn bartner allweddol ohono) yn darparu adnoddau cyfrifiadol a phosibiliadau cydweithio ychwanegol, ynghyd â thîm o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil medrus a fydd yn cefnogi'r CDT ar dechnegau rhaglennu ymarferol a thrwy ddarparu hyfforddiant rhaglennu cyfrifiadurol ar sail y defnyddiwr.
  2. Mae IMPACT (Innovative Materials Processing and Numerical Technologies), gweithred a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno ymchwil ar sail her sydd wedi'i sefydlu'n academaidd a'i ysbrydoli gan ddiwydiant ac a danategir gan feysydd o gryfder creiddiol mewn deunyddiau a pheirianneg gyfrifiadol ar gyfer technolegau gweithgynhyrchu'r dyfodol.
  3. Mae'r Ganolfan dros Heneiddio Arloesol yn gwneud ymchwil cyfranogol a rhyngddisgyblaethol i ddulliau gweithredu i drawsffurfio'r profiad o heneiddio, gan ganolbwyntio ar wella cyflawniad, galluoedd a mwynhad y boblogaeth sy'n heneiddio.
  4. Mae'r Ganolfan Cudd-Ymchwil Bygythiadau Seiber yn arweinydd rhyngwladol ar ei gwaith i ddeall defnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd. Abertawe yw'r unig sefydliad addysg uwch yn y DU i fod yn rhan o'r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Atal Terfysgaeth. 
  5. Mae'r fenter Adeiladau fel Pwerdai  yn creu amgylcheddau sy'n gallu hunan-bweru a darparu ynni ychwanegol i rannau eraill o'r grid dosbarthu ynni. Mae un o'r cyfleusterau hyn, yr ystafell ddosbarth weithredol, wedi'i lleoli ger y Ffowndri Gyfrifiadol tra bod eraill yn cael eu hadeiladu yn y rhanbarth.