Students at the Dylan Thomas Theatre

Ysgrifenwyd gan: Giovanna Donzelli 

Yr wythnos hon, gwahoddwyd nifer o fyfyrwyr blwyddyn olaf sy'n astudio Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe i gynorthwyo Theatr na nÒg fel ymgynghorwyr iaith gyda’u pherfformiad na ddylid ei golli yn Theatr Dylan Thomas: Arandora Star, Cynhyrchiad Theatr na nÓg: Arandora Star - Technocamps; Theatr na nÓg | Facebook

Aeth Emma Burton, Owen McCormack, Madi Neil a Donovan Ruiz, gyda'u darlithydd ac Arweinydd Llwybr Addysgu'r Adran Ieithoedd Modern, Dr Giovanna Donzelli, i gwrdd ag actorion dawnus Theatr na nÒg a gweithio gyda nhw ar eu hynganiad o'r iaith Eidaleg, eu rhythm a llinellau'r opera i baratoi ar gyfer y tymor agoriadol yr wythnos ganlynol!

Cynhyrchiad dwyieithog yn Gymraeg ac Eidaleg yw The Arandora Star sy'n adrodd hanes y cymunedau o Eidalwyr a fu'n byw yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  

Dr Donzelli: "Pan symudais i gyntaf i dde Cymru, rhoddodd rhywun anrheg i mi, sef llyfr hardd â theitl anarferol, "Lime, Lemon and Sarsaparilla" a helpodd fi i ddeall pam roedd coffi mor dda yma, taith bywyd llawer o'm cyd-Eidalwyr i dde Cymru a'u dylanwad ar gymdeithas Cymru.

"Cyn hynny, doeddwn i ddim erioed wedi clywed am hanes yr Arandora Star y mae Theatr na nÒg yn ein hannog i gyd i beidio â'i anghofio. Dyma stori am gyfeillgarwch hyfryd rhwng gwledydd, diwylliannau ac ieithoedd sy'n cael ei chwalu gan y rhyfel ond a gaiff ei ailadeiladu'n araf, ar y llwyfan yn union fel mewn bywyd, drwy'r penderfyniad i edrych y tu hwnt i'n gwahaniaethau a gweld yn yr 'estronwr' gyfle i ehangu ein gorwelion a dysgu."     

Donovan: "Roedd hi'n fraint fawr cael fy ngofyn am help gan y grŵp hwn gyda'u perfformiad o’r Arandora Star. Mae cyfleoedd fel hyn yn amhrisiadwy i fyfyrwyr yn y brifysgol i’n galluogi i gynyddu ein profiad ymarferol yn ein maes."

Emma: "Roedd defnyddio fy Eidaleg gyda'r actorion yn brofiad anhygoel. Roedd hi'n her deall Eidaleg yn cael ei chanu, ond hefyd i roi'r hyn dwi wedi'i ddysgu yn fy ngradd ar waith mewn sefyllfa ymarferol. Gan fy mod i'n siarad Cymraeg, gwnaeth y cyfuniad  o'r tair iaith, bron ar yr un pryd [yn y ddrama], i mi sylweddoli pa mor debyg yw'r Gymraeg a'r Eidaleg a pha mor dda maen nhw'n llifo gyda'i gilydd."

Madi: "Roedd yr ymweliad â Theatr Dylan Thomas yr wythnos diwethaf yn brofiad hynod ddiddorol a wnaeth brofi ein gwybodaeth am Eidaleg wrth helpu'r actorion yn Arandora Star i berffeithio eu hynganiad a'u ffordd o fynegi llinellau Eidaleg drwy'r ddrama.

Owen: "Gwnaeth y profiad ddangos i ni sut gall gwybodaeth am ieithoedd tramor fod o fudd i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau. Roedd hi'n wych gweld yr actorion yn ymateb i'n hadborth gyda'r fath frwdfrydedd a phroffesiynoliaeth."

O ganlyniad i'r cydweithrediad llwyddiannus hwn, mae Theatr na nÒg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe yn cynllunio i ehangu eu cyfleoedd am leoliadau gwaith, yn y Llwybr Addysgu, â'r nod o ddarparu prosiectau cyffrous i'r holl fyfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Mandarin a Sbaeneg. Er enghraifft, bydd myfyrwyr yn helpu i ddylunio a chynhyrchu e-ddeunyddiau Ieithoedd Tramor pwrpasol i gefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion a rhannu eu hangerdd am ieithoedd â phobl ifanc, fel pont rhwng diwylliannau a ffenestr ar y byd.

Hughes, C. (1991). Lime, Lemon & Sarsaparilla. The Italian Community in South Wales 1881-1945. Pen-y-bont ar Ogwr: Seren Books.

Rhannu'r stori