Medieval lady

O’r Oesoedd Canol i’r oes fodern – sut mae menywod yn parhau i herio canfyddiadau o harddwch. 

Mae gwaith ymchwil gan Dr Laura Kalas o Brifysgol Abertawe yn dangos tebygrwydd rhwng yr Oesoedd Canol a’r oes fodern, gan ymchwilio i safonau harddwch menywod a sut mae menywod wedi herio’r canfyddiadau hyn ar hyd yr oesoedd.

Heddiw, mae ein canfyddiadau o harddwch yn drwm dan ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu. Yn aml, mesurir llwyddiant yn ôl golwg gorfforol ac, wrth i ni heneiddio, cawn ein targedu fwyfwy gan negeseuon i’n perswadio i ‘newid’ pwy ydym trwy golli pwysau, cynhyrchion gwrth-rychau ac yn y blaen. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos delfrydau harddwch i ni’n gyson i’w hefelychu.

Trwy ei gwaith ymchwil, mae Dr Laura Kalas, sy’n Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol ym Mhrifysgol Abertawe, yn archwilio tebygrwydd â’r Oesoedd Canol, lle’r oedd harddwch benywaidd yn cael ei ddiffinio gan gymdeithas hefyd a’i ddefnyddio i gamfanteisio ac arfogi – yn erbyn menywod, ond hefyd ganddynt.

Yn ôl Dr Kalas: “Trwy astudio llenyddiaeth, gallwn ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o fenywod sydd wedi herio canfyddiadau diwylliannol.

Er enghraifft, yn y 9fed ganrif, pan oresgynnwyd mynachlog Santes Ebbe yn Coldingham gan y Llychlynwyr, torrodd Ebbe a’i lleianod eu trwynau i ffwrdd i gadw ymosodwyr Llychlynnaidd posibl draw. Yn ôl chwedl Santes Wilgefortis o’r 15fed ganrif, mae Wilgefortis mor chwyrn yn erbyn priodi brenin paganaidd fel ei bod hi’n gweddïo am anffurfiad – wedi hynny mae hi’n tyfu mwstas a barf ac yn llwyddo i wrthyrru’r brenin.

Er hynny, mae’r menywod hyn yn cael eu lladd ac yn dod yn ferthyron. Ond iddyn nhw, mae eu harddwch mewnol – harddwch eu heneidiau – yn bwysicach na’u harddwch allanol.”

Heddiw, mae ‘duwiau’ modern llawdriniaeth gosmetig yn helpu cleientiaid i gyfateb eu golwg allanol i’w cyflyrau mewnol er mwyn cyflawni eu canfyddiadau personol o harddwch.

"Roedd menywod yn yr Oesoedd Canol, fel heddiw, yn ddarostyngedig i safonau harddwch llym a oedd yn aml yn groes i’w gilydd. Roeddwn eisiau archwilio’r ffyrdd y mae llwyddiant menywod yn aml yn cael ei fesur yn ôl eu hallanoldeb, a’r ffyrdd y mae menywod ar hyd hanes wedi defnyddio dulliau eithaf treisgar weithiau o wrthsefyll y categorïau y’u gosodir ynddynt, a’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu”, meddai Dr Kalas.

Trafodwyd ‘Arfogi Harddwch’, sgwrs gan Dr Kalas, mewn pennod o’r rhaglen ‘The Idea’ ar BBC Radio Wales. 

Dysgwch fwy am Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori