ADEILADAU KEIR HARDIE A JAMES CALLAGHAN
Yn gartref i nifer o bynciau yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, mae Keir Hardie a James Callaghan yn darparu cyfleusterau addysgu sy'n cyfoethogi profiad y myfyrwyr, gan gynnwys labordai cyfrifiaduron, stiwdio deledu, ystafell gyfieithu a chyfieithu ar y pryd ac ystafell realiti rhithwir.
Mae adeilad James Callaghan hefyd yn gartref i'r adrannau Hanes, y Clasuron, Eifftoleg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Athroniaeth, PPE (Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg) ac Astudiaethau Americanaidd. Yn islawr adeilad James Callaghan mae siop goffi Callaghan’s ar ei newydd wedd - 'Change Please' - yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a bwyd. Mae lleoliad profiad myfyrwyr hefyd newydd gael ei greu yn yr adeilad hwn, nesaf at y siop goffi.
Mae adeilad Keir Hardie yn gartref i'r adrannau Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Economeg, Cymraeg, Troseddeg, Ieithoedd Modern, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Ieithoedd Modern. Hefyd, mae gan yr adeilad ystafell greadigol sydd newydd ei chreu er mwyn i fyfyrwyr a staff ymchwil ôl-raddedig ymgymryd â gweithgarwch cydweithredol yn eu cymunedau eu hunain ac ar y cyd â rhanddeiliaid/partneriaid allanol.
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn teithiau maes yn y DU a thramor, a chânt gyfle i gydweithredu â'r Ganolfan Eifftaidd a'r Senedd drwy fodiwlau. Cânt eu cefnogi hefyd i gael profiad gwaith mewn amrywiaeth eang o sectorau, o'r heddlu i gyhoeddi. Cerddwch ymlaen heibio i Adeilad James Callaghan ac mae Abaty Singleton yn uniongyrchol o'ch blaen.