RHEOLI EIN HAMGYLCHEDD GWAITH

Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod bod angen dadansoddi ac archwilio ein heffaith amgylcheddol wahanol yn rheolaidd er mwyn: gosod targedau sefydliadol, asesu blaenoriaethau a monitro tueddiadau, yn ogystal ag adnabod gwelliannau a bylchau mewn perfformiad . Gan gadw hyn mewn cof, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i broses Rheoli Amgylcheddol (EMS), yr ISO 14001:2015 a ddilysir yn allanol ac achrediad EcoCampus. 

Mae cwmpas yr EMS yn cynnwys ystâd gyfan y Brifysgol – ein 3 campws ym Mharc Singleton, Campws y Bae, a Dewi Sant, Caerfyrddin. Mae’r cwmpas hefyd yn cynnwys pob maes busnes, yr holl gyfadrannau academaidd a gweithrediadau. 

Gwelwch ein ISO 14001:2015 Certificate ddiweddaraf.

Pwy sy'n gyfrifol?

Mae pawb yn gyfrifol am roi'r EMS ar waith, ac mae hyn yn cynnwys:

  • Uwch Dîm Rheoli'r Brifysgol yn rhoi arweinyddiaeth o ran cynaliadwyedd
  • Mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn rheoli'r system ac yn cynnig cymorth i staff a myfyrwyr y brifysgol
  • Yr holl staff a myfyrwyr yn ymwybodol o sut gallant gefnogi amcanion, targedau a gweithdrefnau cynaliadwyedd y Brifysgol
People & Planet University League 1st Class Award Logo

EMS ar waith

Mae cyfres o weithdrefnau ac arweiniad gweithredol yn cefnogi’r gweithgareddau beunyddiol a wneir ar ein campysau. Mae crynodeb isod.