dau gwch gwenyn glas
Gwenynen ar flodyn melyn
Cwch gwenyn melyn

Mae si ar lêd ar Gampws y Bae!

Diolch i Gronfa’r Angen Mwyaf, mae’r grŵp ‘Gwenyn Campws y Bae’ wedi gallu adeiladu a datblygu cymuned o wenynwyr a phobl sy’n frwdfrydig dros wenyn o fewn cymuned Prifysgol Abertawe. Mae’r grŵp yn cynnwys staff a myfyrwyr sydd wedi’u hymroi i ddysgu’r grefft o wenynyddiaeth.

Mae ein ddau gwch gwenyn wedi’u lleoli yn y perthi ger adeilad Dwyreiniol Peirianneg, yn dilyn rhai blynyddoedd trafferthus ar do'r adeilad. Y cynllun oedd defnyddio’r cyllid i annog gweithgareddau gwenynyddol ar y campws o fewn y gymuned. Yn sgil cyfyngiadau COVID-19, nid oeddem yn gallu rhedeg ein cwrs gwenynyddiaeth ein hunain eleni ond byddwn yn ymdrechu i wneud yn y gwanwyn. Fel arall, gall unrhyw aelod o’r gymuned sy’n dymuno dysgu’r pethau sylfaenol am wenynyddiaeth fynychu cwrs gwenynyddiaeth lleol. Byddant wedyn yn gallu defnyddio’r wybodaeth newydd hon gyda’r cychod gwenwyn ar y campws, trwy helpu gyda chynnal a chadw’r gwenyn a gofalu am y ddwy haid.

Defnyddiwyd y cyllid hyd yn hyn i greu platform rhyngweithiol a deallusol i’r cychod gwenyn. Mae’r cychod gwenyn glas tywyll bellach ar-lein ac yn cael eu monitro’n barhaus am agweddau o wenynyddiaeth a fydd yn helpu i greu rhyngweithio o fewn y gymuned. Mae’r monitro awtomatig yn asesu lleithder y tu mewn a’r tu allan, tymheredd, pwysau, ac yn amcangyfrif y nifer o wenyn. Dim ond yr amodau mewnol sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd yn y cwch gwenyn glas golau, ond eto, mae’r holl ddata ar gael ar-lein i bawb gael gweld.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, dylai’r wybodaeth ddod yn gynyddol ddiddorol, fydd yn ein galluogi ni i weld sut mae’r haid yn ymddwyn ac yn tyfu. Gall unrhyw aelodau brwd o’r gymuned ddefnyddio ap ffôn i ddiweddaru’r wefan, gan lawrlwthyo’r data o’r cychod gwenyn a’i lanlwytho i’r cwmwl i bawb gael gweld. Mae’r ddwy haid bellach yn mynd i gysgu am y gaeaf, felly gobeithiwn y byddant yn ail ymddangos yn y gwanwyn i dyfu’n heidiau sy’n cynhyrchu mêl y flwyddyn nesaf. Pe bai’r heidiau hyn yn methu â goroesi’r gaeaf, bydd gwenyn newydd yn cael eu cyflwyno.


Gan Charlie Dunnill 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp 'Gwenyn Campws y Bae', cysylltwch â Charlie Dunnill c.dunnill@abertawe.ac.uk

Oeddech chi'n gwybod mai Prifysgol Abertawe yw'r prifysgol gyntaf i gael ei chydnabod fel prifysgol sy'n gyfeillgar i wenyn?

Eich Cymorth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch Abertawe a'r Angen Mwyaf
heddiw.