Trosolwg o'r Prosiect
Mae ENCYRCLE yn fenter ymchwil y buddsoddwyd £2 filiwn ynddi gan Brifysgol Abertawe gyda'r Ganolfan Ecsbloetio Data Genedlaethol yng Nghymru, sy'n rhan o'r arweinydd technoleg byd-eang, Thales. Mae'n dod ag ymchwilwyr ac arbenigwyr o fyd diwydiant ynghyd i ysgogi arloesedd a chryfhau seiberwydnwch systemau rhyng-gysylltiedig.
Mae ENCYRCLE yn canolbwyntio ar gryfhau seiberwydnwch mewn isadeiledd trafnidiaeth, gweithgynhyrchu ac ynni. Wrth i ddeallusrwydd artiffisial a hyper- gysylltedd sbarduno newid technolegol cyflym, mae sicrhau diogelwch a diogeledd systemau wedi dod yn her hollbwysig. Mae ENCYRCLE yn datblygu atebion arloesol i wella diogelwch technolegau cysylltiedig ac awtomataidd drwy gydol eu cylch bywyd.
Pam mae seiberwydnwch yn bwysig?
Mae heriau diwydiannol wedi nodi:
- Nad yw diogelwch swyddogaethol traddodiadol a seiberddiogelwch modurol yn ddigonol i sicrhau gwydnwch mewn systemau cymhleth.
- Heriau peirianneg systemau ar gyfer systemau sydd ag achos diogelwch deinamig.
Sut byddwn ni'n cyflawni seiberwydnwch?
- Modelau gwydnwch systemau gydol oes sy'n integreiddio diogelwch a bywioldeb.
- Modelau datblygu systemau cylch bywyd, offer seiberwydnwch ac achosion defnydd yn Thales.
- Modelu iaith ar gyfer gwydnwch gan ddefnyddio proffiliau SySML sydd wedi eu cymhwyso i astudiaethau achos a ddewiswyd.
- Arddangos dadansoddiad a gefnogir gan offer.
Beth yw ein Heffaith?
- Labordy ymchwil pwrpasol sy'n cynnwys offer arbenigol a ddatblygwyd trwy ENCYRCLE.
- Gallu parhaus ar gyfer modelu a dadansoddi gwydnwch.
- Gwella diogelwch y cyhoedd a chynyddu eu hymddiriedaeth mewn technolegau newydd, gan ategu effaith gymdeithasol.
- Cynyddu gwydnwch dichonadwy gan arwain at effaith economaidd.
- Gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd diwydiannol er mwyn lleihau olion troed amgylcheddol.
- Sgiliau y mae galw mawr amdanynt drwy brofiad ymchwil a gwella'r cwricwlwm.