Santander Universities logo

Academi Agored Santander

Mae Santander Universities UK wedi gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ers 2014, gan ddarparu cyllid o fwy na £822,700 i gefnogi rhaglenni addysg, mentergarwch a chyflogadwyedd o ansawdd uchel.

Mae Academi Agored Santander yn blatfform dysgu digidol am ddim sydd ar agor i bawb, gan ddarparu cyfleoedd dysgu parhaus gyda mynediad at dros 1,000 o gyrsiau, cynnwys ar alw ac ysgoloriaethau bob blwyddyn. Mae'r pynciau'n cynnwys sgiliau digidol, arweinyddiaeth, technoleg, cynaliadwyedd, sgiliau busnes a mwy.

Gelli di ennill cymwysterau a thystysgrifau, a dysgu unrhyw le, unrhyw bryd, ac mae popeth am ddim. Defnyddia'r platfform rhad ac am ddim i wella dy ragolygon gyrfa ac ennill sgiliau gwerthfawr sy'n cyd-fynd â gofynion y farchnad swyddi heddiw.

Nid oes angen i ti fod yn gwsmer Santander i gael mynediad at Academi Agored Santander.

 Pam oedi felly? Cofrestra heddiw

Cofrestra heddiw!