Llongyfarchiadau! Rydych chi ar eich ffordd i astudio gradd yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Byddwn mewn cysylltiad trwy e-bost i esbonio pob cam o dderbyn eich cynnig i'r proses ymrestru felly cadwch lygad ar eich blwch derbyn i gael diweddariadau, cyfarwyddiadau a chyngor rheolaidd.

Yn gyntaf - Derbyn eich cynnig

I dderbyn y cynnig hwn, mewngofnodwch i'ch cyfrif UCAS a chliciwch ar eich botwm 'Ychwanegu Dewis Clirio' a nodwch god Sefydliad Prifysgol Abertawe, sef S93, a chod y cwrs yn adrannau perthnasol y ffurflen.

Dim ond o 13:00 ar ddiwrnod y canlyniadau (17 Awst) y gallwch chi ychwanegu Prifysgol Abertawe fel eich dewis clirio.

Beth sydd nesaf?

Ar ôl i ni dderbyn eich cynnig clirio (neu atgyfeiriad) gan UCAS byddwn yn gwirio'ch cais yn erbyn y manylion a roesoch inni ac efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch yn gofyn i chi e-bostio copïau o'ch slipiau canlyniadau arholiad i'r manylion cyswllt isod.

Ar ôl i chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, gallwn wedyn eich derbyn yn ffurfiol (bydd hyn fel arfer yn cymryd hyd at un diwrnod gwaith).

Yna bydd y derbyniad yn cael ei arddangos yn adran 'dewisiadau' eich Hwb UCAS a bydd UCAS yn anfon llythyr atoch i adael i chi wybod bod eich lle wedi'i gadarnhau. Byddwn hefyd yn anfon cynnig ffurfiol atoch trwy e-bost.

Nesaf - Gwnewch gais am lety

Mae lleoedd mewn llety a reolir gan y Brifysgol neu dai a rennir gyda myfyrwyr eraill yn dal i fod ar gael i fyfyrwyr Clirio ac Addasu.

Mae angen i chi wneud cais cyn gynted â phosibl gan fod lleoedd yn cael eu dyrannu yn nhrefn dyddiad.

Gallwch gyflwyno'ch cais am lety ar unwaith, heb aros i'ch atgyfeiriad clirio fynd drwyddo.

Ewch i'n tudalen llety i wneud cais, bydd angen eich rhif adnabod UCAS arnoch chi, neu'ch rhif myfyriwr os nad oes rhif adnabod UCAS gennych.

Sylwch, y bydd eich cais am lety ond yn cael ei brosesu ar ôl i chi atgyfeirio'ch hun trwy'r Hwb UCAS a chael eich derbyn yn ffurfiol.

Am ragor o wybodaeth am lety ar gyfer ymgeiswyr clirio ac addasu, gweler gwefan y Gwasanaethau Preswyl.

Bydd llety yn cynnal sgyrsiau byw ar-lein bob dydd yn ystod glirio sy'n canolbwyntio ar lety. 

Dyma gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau yn gysylltiedig â llety i'r tîm llety a allai wneud eich proses ymgeisio trwy glirio yn haws.

Ysgoloriaethau / Bwrsariaethau

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod o Ysgoloriaethau eleni:

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth sy'n werth £3,000 i bob myfyriwr israddedig newydd yn y DU / UE sy'n cyflawni AAA ar Safon Uwch neu gyfwerth.

Ysgoloriaethau Teilyngdod sy'n werth £2000 i bob ymgeisydd sy'n cyflawni AAB ar Safon Uwch neu gyfwerth.

Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein tudalen ysgoloriaethau.

Yna paratowch i ddechrau eich gradd!

Darganfyddwch am wythnos y glas, ymrestru a sefydlu ar wefan MyUni.