Adnoddau i'n help ni i ddeall profiadau pedwar milwr o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn gynnar yn 2013, roedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o brosiect i rannu deunydd a oedd yn gysylltiedig â milwyr o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf a oedd yn rhan o gasgliadau teuluoedd. Cafodd dros 150 o eitemau eu sganio a'u fformatio, ac mae'r deunydd gwreiddiol i'w gwarchod a'u rhannu drwy wefan Casgliad y Werin Cymru.

Isod, ceir dogfennau sy'n archwilio straeon y pedwar milwr y cafodd eu llythyron, eu ffotograffau a'u dyddiaduron eu rhannu. Nod y gwaith dadansoddi hwn oedd rhoi darlun cliriach i ddarllenwyr o’r profiadau newydd a gafwyd gan yr unigolion hyn a sut y gwnaethant ymateb i'r amgylchiadau anodd roeddent yn eu hwynebu.