Yamni Nigam yn derbyn gwobr

Mae'r Athro Yamni Nigam yn arbenigwr o fri rhyngwladol ar wyddor cynrhon a'r defnydd therapiwtig ohonynt.  

Mae wedi bod yn ymchwilio i gynrhon meddyginiaethol ers blynyddoedd lawer ac mae'n frwd dros gyfathrebu â chymunedau a sefydliadau drwy'r ymgyrch “Caru Cynrhonyn”.  

Meddai'r Athro Nigam: “Mae llawer o bobl mewn perygl o ddatblygu clwyfau na fyddant yn gwella, gan gynnwys pobl sydd â diabetes neu sydd â phroblemau fasgwlaidd. 

“Drwy'r ymgyrch Caru Cynrhonyn, ein nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r defnydd o gynrhon byw fel triniaeth glinigol i helpu i wella clwyfau cronig, yn y gobaith o gael gwared ar y stigma sy'n ymwneud â therapïau cynrhon.”  

Ar hyn o bryd, ariennir yr Athro Nigam i ymchwilio i fodd o ddefnyddio secretiadau cynrhonaidd i ddatblygu gwrthfiotig newydd, ac i archwilio ffactorau gwrthficrobaidd mewn rhywogaethau eraill o greaduriaid di-asgwrn-cefn.  

Mae'n aelod o grŵp Rhwydwaith Clwyf Cymru, yn aelod o Gymdeithas Parasitoleg Prydain ac yn Gymrawd Etholedig o'r Gymdeithas Entomoleg Frenhinol. Mae hefyd wedi'i hyfforddi fel Llysgennad STEM, gan gyflwyno sesiynau rhyngweithiol ar ficrobioleg ac entomoleg i ddisgyblion mewn ysgolion lleol.  

Ym mis Tachwedd 2018, cafodd ei hanrhydeddu gan y Dywysoges Frenhinol pan dderbyniodd Wobr Genedlaethol WISE ar gyfer Arloesi am ei hymchwil i gynrhon a'i rôl fel Llysgennad STEM. Meddai: “Roeddwn wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr ac rwy'n bwriadu gweithio hyd yn oed yn agosach gydag ymgyrch WISE.  

“Rwy'n frwd dros wyddoniaeth ac yn benderfynol o wneud yr hyn y gallaf i sicrhau bod mwy o ferched yn ymddiddori mewn pynciau STEM ac yn eu hastudio. Mae'n genhadaeth bwysig iawn a byddaf yn fwy na pharod i neilltuo amser iddi.”