Louise yn derbyn gwobr, yn ysgwyd llaw

Yr Athro Louise Condon yn derbyn cymrodoriaeth yr Institute of Health Visiting gan Dan Poulter, Is-ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Iechyd. 


Fel athro nyrsio, mae Louise Condon yn defnyddio ei phrofiad ymarferol o weithio ym maes gofal iechyd i lywio ei gwaith ymchwil ac addysgu. 
 

Ond nid dyna'r yrfa yr oedd hi wedi'i rhagweld yn wreiddiol pan oedd yn fyfyrwraig israddedig 18 oed ym Mhrifysgol Bryste.  

“Roeddwn wedi bod yn academaidd o'r dechrau'n deg yn yr ysgol ac es i ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg – dyna fy nghariad cyntaf. Ond, ar ôl ennill fy ngradd, roeddwn am wneud rhywbeth ymarferol a defnyddiol, felly penderfynais fod yn nyrs er mwyn gwneud gwaith gwirfoddol dramor. Fodd bynnag, nid ydw i wedi cyflawni'r nod hwnnw eto!”  

Gwnaeth Louise aros yn y DU a chael ei hyfforddi i fod yn nyrs yng Nghaerdydd (cwrs cryno i raddedigion). Yna cafodd hyfforddiant fel bydwraig yn Llundain cyn bod yn ymwelydd iechyd ym Mryste.   

Yn y diwedd, aeth i'r byd academaidd yn amser llawn yn 2010 ar ôl astudio am PhD yn Ysgol Astudiaethau Polisi Prifysgol Bryste.  

“Yn 2017, cefais fy mhenodi'n Athro Nyrsio mewn swydd ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  

“Ers hynny, rwyf wedi cael amser difyr iawn yn cyfuno ymchwil i anghydraddoldebau iechyd â helpu i ennyn diddordeb nyrsys a bydwragedd y GIG mewn gwneud gwaith ymchwil a'i gyhoeddi.  

“Ac mae'r radd honno mewn Saesneg yn ddefnyddiol pan fyddaf yn llunio ceisiadau, yn gwneud adolygiadau ac yn golygu cyfnodolyn.”  

 Dechreuodd diddordeb Louise mewn gwaith ymchwil yn ystod ei gyrfa glinigol, pan fyddai'n seilio prosiectau ymchwil ar syniadau a oedd yn deillio o'i hymarfer clinigol.  

“Er enghraifft, pan oeddwn yn gweithio fel ymwelydd iechyd mewn ardal gyfoethog yn ystod y 1990au, gwelais fod llawer o rieni'n betrusgar ynghylch brechlynnau. Dylanwadwyd ar lawer ohonynt gan bapur drwg-enwog Andrew Wakefield yn Lancet, felly byddwn i'n mynd â chopi ohono gyda mi er mwyn dangos y diffyg rhesymeg dros gysylltu'r brechlyn MMR ag awtistiaeth.”  

Ar yr un pryd, roedd Louise yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil gofal sylfaenol i archwilio agweddau rhieni at imiwneiddio a pheidio ag imiwneiddio yn erbyn MMR.  

“Yn fy ngyrfa fel ymchwilydd, mae iechyd y bobl fwyaf difreintiedig wedi mynd â'm bryd. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi canolbwyntio ar archwilio anghenion iechyd pobl o gymunedau Roma, Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cael y canlyniadau iechyd gwaethaf ymysg grwpiau ethnig y DU.”  

Roedd Louise yn rhan o'r tîm a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i archwilio arferion imiwneiddio ymhlith Teithwyr. Mae'r astudiaeth hon wedi dylanwadu ar bolisïau yn y DU a thramor, gan gyfrannu ar hyn o bryd at ddealltwriaeth o'r ffordd orau o hyrwyddo a hwyluso brechiadau yn erbyn Covid-19 ymysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig.  

Yn ei rôl nesaf, bydd Louise yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe o fis Awst 2021. Bydd hi'n parhau i fod yn brif ymchwilydd ar y cyd â Dr Menna Price ar brosiect a ariennir gan Alcohol Change UK yn ogystal â gweithio gyda'r Athro Sergei Shubin a'i dîm ar brosiect COVINFORM EU Horizons, sy'n ymchwilio i effaith Covid-19 ar grwpiau bregus.