Mae Pak Tee NG [Sefydliad Addysg Cenedlaethol (NIE), Prifysgol Dechnolegol Nanyang] yn addysgwr o Singapôr sy’n cymryd rhan weithgar wrth ddatblygu arweinwyr ysgol ac athrawon. Yn NIE, bu’n Ddeon Cysylltiol Arwain Dysgu a Phennaeth Grŵp Academaidd Astudiaethau Arweinyddiaeth. Ei brif waith yw newid addysgol, polisi ac arweinyddiaeth.

Mae Pak Tee wedi siarad mewn llawer o ddigwyddiadau byd-eang, er enghraifft, Symposiwn Addysg Byd-eang Google, Cynhadledd Fyd-eang Bagloriaeth Ryngwladol, a Gŵyl Ddysgu’r Alban. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Gyngor Rhyngwladol Ymgynghhorwyr Addysg yr Alban. Mae’n gyd-olygydd cyfres lyfrau Leading Change gan Routledge ac yn awdur “Learning from Singapore: The Power of Paradoxes”. Er iddo ennill gwobrau, ei brif wobr yw urdd o fyfyrwyr sy’n arweinwyr addysgol eu hunain ac sy’n datblygu hyn drwy eu gwaith angerddol yn y byd addysg.