Roeddem wrth ein boddau yn croesawu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i Brifysgol Abertawe ar 24 Mawrth fel rhan o'r daith flynyddol i holl ddarparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (ITE) yng Nghymru. Fe wnaeth y Bartneriaeth fwynhau trafod Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru ar adeg mor gyffrous a phwysig i'r sector addysg. Cafodd y Gweinidog ei gyflwyno gan Yr Athro Elwen Evans CB, (Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol) a'r Athro Tom Crick MBE (Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol - Cenhadaeth Ddinesig a Phennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod). Cadeiriwyd sesiwn holi ac ateb gan Dr Gwenno Ffrancon (Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi). Roedd y gynulleidfa'n cynnwys myfyrwyr TAR presennol Prifysgol Abertawe yn ogystal â'r tîm TAR a chydweithwyr ar draws Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe.