Ar lwyfan y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Meifod, cynhaliwyd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan sy’n agored i ddisgyblion ysgol blwyddyn 10 – 13 ac fe’i noddir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, Prifysgol Abertawe. Pwnc llosg yr Her eleni oedd “Dyfodol Di-garbon i Gymru: Breuddwyd neu Realiti?” ac fe benderfynodd y beirniaid, yr Athro Trystan Watson o Ysgol Peirianneg Prifysgol Abertawe a newyddiadurwraig BBC Radio Cymru Heledd Siôn, mai Esther Harper oedd yn haeddu ennill teitl siaradwr gorau 2024.
Disgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yw Esther, ac yn ogystal ag ennill gwobr ariannol i’w hysgol, cafodd gyfle hefyd i ddewis profiad gwaith wedi’i drefnu gan Academi Hywel Teifi. Mae Esther yn ymddiddori mewn cyfraith ryngwladol a gwleidyddiaeth felly, fe drefnwyd ei bod yn mynychu gweithdy a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe.
Treuliodd Esther ei hamser gyda'r Athro Yvonee McDermott Rees sy'n arbenigwraig mewn cyfraith ryngwladol o Ysgol y Gyfraith, a oedd hefyd yn un o siaradwyr y gweithdy. Roedd ffocws y digwyddiad yn amrywio o edrych ar rôl y Llys Troseddol Rhyngwladol a phrosesau atebolrwydd cymunedol yng nghyd-destun cyfiawnder ôl-erchyllder, i ragfarn a thuedd mewn achosion llys a'r system cyfiawnder wrth ystyried tystiolaeth ffug, yn enwedig deallusrwydd artiffisial a ffugiadau dwfn. Cafodd Esther flas ar agweddau gwahanol iawn ond amserol a phwysig iawn sy'n effeithio ar gyfraith ryngwladol heddiw.
Buodd Esther yn ddigon ffodus hefyd ymweld â'r Senedd gan gysgodi Sioned Williams sy'n Aelod Senedd dros Orllewin De Cymru. Yn ogystal â thaith o'r Senedd a chyfle i ddysgu am waith a rôl AS, cafodd Esther wylio sesiwn o Gwestiynau i'r Prif Weinidog. Am brofiad!
Meddai Esther am ei phrofiad: “Ers i fi ennill Her Sefydliad Morgan yn Eisteddfod yr Urdd 2024, mae hi wedi bod yn fraint ac yn bleser enfawr i gael y profiadau diddorol iawn a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe. Trwy'r profiadau hyn, cefais y cyfle i gwrdd ag arbenigwyr eu maes a dysgu o’u profiadau, yn benodol ym meysydd gwleidyddiaeth, y gyfraith, a chyfiawnder cymdeithasol. Ni fyddaf yn anghofio’r bobl arbennig rwyf wedi cwrdd o ganlyniad i ennill y gystadleuaeth a’r sgiliau gwerthfawr rwyf wedi ennyn trwy’r profiadau yma, a ehangodd fy ngorwelion, nid yn unig fy llwybr gwaith, ond yn fy newisiadau bywyd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Academi Hywel Teifi am eu gwaith trefnu a’u haelioni yn ystod y cyfnod yma. Edrychaf ymlaen i weld parhad yn eu gwaith gwerthfawr!”