Ymdrechion i ôl-droi newid iaith mewn cymunedau sy’n ddi-Gymraeg ar y cyfan

Comisiynwyd y prosiect drwy gyllid ymchwil gwerth £35,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2010. Cymerodd traean o ddysgwyr Cymraeg sy’n oedolion ran mewn darpariaeth lefel uwch drwy holiaduron a grwpiau ffocws. Yn sail i’r ymchwil hon oedd ymgais i nodi a yw dysgu mewn Canolfan Gymraeg (a ddiffinnir fel canolfan lle mae dosbarthiadau i ddysgwyr y Gymraeg yn cael eu cyfuno â gweithgareddau i siaradwyr y Gymraeg yn y gymuned, yn ogystal â chyfleusterau amrywiol eraill) yn effeithio ar a yw rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg posib ar gael i oedolion drwy gymharu â dysgwyr a astudiodd mewn Canolfan Gymraeg a’r rhai hynny nad oeddent wedi cael y cyfle hwn. 

Cyhoeddwyd a rhyddhawyd y canfyddiadau ymchwil a’r argymhellion mewn digwyddiad dan nawdd yr AC dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn y Senedd ar 10 Gorffennaf 2012. Dilynwyd hyn gan gyfarfod agored i drafod Canolfannau Cymraeg yng Nghanolfan Gymraeg Abertawe - Tŷ Tawe – lle bu llawer o’r siaradwyr a fu’n rhan o gynnal neu sefydlu Canolfannau Cymraeg yn bresennol, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n cynllunio i sefydlu rhai newydd. Nododd yr AC dros Lanelli ar adeg y lansiad, Keith Davies (sydd hefyd yn gadeirydd grŵp iaith Cymraeg trawsbleidiol) yn ei blog bod “... arbenigwyr wedi tynnu sylw at effaith gadarnhaol Canolfannau Cymraeg  ar eu cymunedau lleol a sut mae’r berthynas rhwng yr iaith a’i chymuned yn mynd law yn llaw...".  Roedd model y Ganolfan Gymraeg wedi gosod gwreiddiau ac ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddwyd y byddai’r llywodraeth yn dyrannu £70,000 i sefydlu Canolfan Gymraeg yn Llanelli (Y Lle).

Ar 6 Awst 2014, cyhoeddodd  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gronfa fuddsoddi gwerth £1.5 miliwn a fyddai’n cael ei defnyddio i sefydlu Canolfannau Cymraeg, ac ar 4 Tachwedd 2014, cyhoeddodd gyllid pellach gwerth £2 miliwn, gan gysylltu hwn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yng Nghymru, sef 'Bwrw Ymlaen'. Mae’r Canolfannau Cymraeg hyn newydd eu cyllido wedi agor yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, Wrecsam, Bangor a Phontardawe (mewn cydweithrediad ag Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe). Daeth adroddiad a gomisiynwyd yn 2015 i werthuso effaith economaidd Canolfan Gymraeg hirsefydledig ym Merthyr Tudful at y casgliad ei bod hi wedi cyfrannu oddeutu £608,000 at yr economi leol, gan amcangyfrif bod cyfanswm yr effaith economaidd yn ne Cymru yn werth £1.3 miliwn.

Delweddau trwy garedigrwydd Chris Reynolds.