Beth yw eich maes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar Drosi Gwybodaeth mewn Chwaraeon Ieuenctid. Yn syml, rwyf yn edrych ar sut gallwn roi ymchwil ar waith. Mae fy mhrosiect PhD yn archwilio effaith trosi gwybodaeth mewn sefydliad elusennol chwaraeon ieuenctid, gyda'r nod o bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer drwy ddatblygu model trosi gwybodaeth.
Sut dechreuodd eich ddiddordeb yn y maes?
Ar ôl graddio gyda gradd meistr, roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi cyrraedd croesffordd. Roeddwn i wedi bod yn gweithio ym meysydd chwaraeon, marchnata, gwaith ieuenctid a hawliau dynol ac roeddwn i eisiau parhau â'r holl bethau hynny y mae gennyf ddiddordeb angerddol ynddynt. Des i ar draws y prosiect hwn ac roedd yn berffaith imi! Rwyf yn gallu defnyddio fy sgiliau marchnata a'r cyfryngau i gyfathrebu, fy nghefndir mewn chwaraeon i ddeall y cyd-destun a'm hangerdd dros hawliau dynol i sicrhau bod y gwaith yn newid bywydau pobl ifanc er gwell. Roedd dod o hyd i'r PhD hwn yn teimlo fel darganfod darn coll y pos, gan roi ystyr o'r diwedd i'm cefndir amrywiol.
Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Symudais i Abertawe ar ôl i mi ennill SUIPRES (Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Ryngwladol Prifysgol Abertawe) ar gyfer PhD mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yr hyn a apeliodd fwyaf ataf oedd natur ryngddisgyblaethol y prosiect hwn. Wedi i mi gwrdd â'm pwyllgor goruchwylio, Dr Kurtis Pankow, Dr Tom Love, yr Athro Camilla Knight, a Dr Bo Wen, roedd y penderfyniad hyd yn oed yn haws. O ganlyniad i'w harbenigedd ar draws meysydd amrywiol, roeddwn i'n gwybod y byddwn yn cael cefnogaeth heb ei hail i fynd i'r afael â'm gwaith o sawl persbectif a safbwynt. Ar y cyfan, rwyf yn hapus iawn fy mod yn rhan o brifysgol sy'n gwerthfawrogi cydweithredu rhyngwladol a rhagoriaeth ymchwil.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Gobeithiaf wneud ymchwil yn hawdd ei defnyddio, yn syml ac yn hygyrch i bawb.
Prif nod fy PhD yw archwilio effaith trosi gwybodaeth mewn cyd-destun elusen chwaraeon ieuenctid. Rwy'n bwriadu datblygu model trosi gwybodaeth sy'n helpu sefydliadau chwaraeon ieuenctid i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer.
At ba ddibenion ymarferol gallai eich ymchwil gael ei defnyddio?
Er bod gwyddor chwaraeon yn faes cymhwysol yn ei hanfod, yn aml bydd sefydliadau'n wynebu anawsterau wrth geisio dehongli a defnyddio tystiolaeth ymchwil yn eu gwaith. Achosir y bwlch hwn rhwng ymchwil ac ymarfer gan sawl rhwystr: gall ymchwil fod yn ddrud i'w chyrchu ac yn anodd i'w dehongli ac mae llawer o sefydliadau'n wynebu cyfyngiadau ariannol neu o ran gwybodaeth staff. Mae fy ymchwil yn cynnwys cydweithredu â Greenhouse Sports, sefydliad elusennol chwaraeon ieuenctid yn Llundain. Byddaf yn cynnal astudiaethau achos manwl ar brofiadau blaenorol y sefydliad ac wedyn yn datblygu model trosi gwybodaeth. Y nod yw creu fframwaith sy'n gwneud ymchwil yn hawdd ei defnyddio a'i chyrchu. Er bod y gwaith hwn yn dechrau ym myd chwaraeon, gallai weithredu fel glasbrint yn y pendraw i gefnogi sectorau eraill megis gofal iechyd neu addysg.
Beth sydd nesaf am eich ymchwil?
Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar yr astudiaeth achos gyntaf mewn lleoliad datblygu chwaraeon ieuenctid lle rwyf yn edrych ar 'waith a ddychmygwyd' yn erbyn 'gwaith a wnaed' yn Greenhouse Sports. Yn fuan byddaf yn cynnal cyfweliadau lled-strwythuredig ac yn casglu data ansoddol i ddeall sut caiff rhaglenni eu dylunio a'u rhoi ar waith.
Wedyn bydd y canfyddiadau hyn yn cyfeirio gwaith i ddatblygu fframweithiau trosi gwybodaeth ar gyfer cam nesaf y prosiect.
Hanes gyrfa
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi byw mewn saith gwlad ac wedi gweithio ym meysydd chwaraeon, marchnata ac effaith gymdeithasol. Cwblheais fy ngradd israddedig mewn gweinyddu busnes ym Mhacistan, ac wedyn gwnes i radd meistr Erasmus Mundus ar y cyd mewn rheoli chwaraeon yn Ffrainc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg a Phortiwgal.
Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi sefydlu asiantaeth farchnata, cynyddu capasiti busnesau a threfnu dros 10 o ddigwyddiadau chwaraeon ac adloniant. Rwyf wedi gweithio ar sawl prosiect Erasmus+ ac European Solidarity Corps (ESC), gan ganolbwyntio ar waith ieuenctid a hawliau dynol, ochr yn ochr â rolau marchnata a chyfathrebu mewn sefydliadau megis iWorkinSport, Clubee a Borders:none. Gwnes i hefyd gyd-sefydlu'r fenter gymdeithasol Actcept.
Ar hyn o bryd rwyf yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, lle rwyf yn canolbwyntio ar drosi gwybodaeth mewn chwaraeon ieuenctid.