Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe 2026

Enillwyr Gwobr Ymchwil Ôl-raddedig o'r chwith i'r dde: Mamta Behera (Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd), Dr Luis Maia De Freitas (Gwobr Menter Ymchwil Ôl-raddedig), Dr Gwennan Higham (Gwobr Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig), yr Athro Amira Guirguis (Gwobr Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig), yr Athro Leighton Evans (Gwobr Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig), Mohsin Ali (yr ail wobr yn y gystadleuaeth Thesis Tair Munud), Joseph Udeh (Gwobr Diwylliant a Chymuned Ymchwil Ôl-raddedig), Sabriya Hussain (enillydd y gystadleuaeth Thesis Tair Munud), Dr Callum Lock (Gwobr Traethawd Ymchwil Doethurol James Callaghan), Emily Adams (Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd)
Dros fis Mai a mis Mehefin, dathlodd Prifysgol Abertawe ei chymuned ymchwil ôl-raddedig (PGR) drwy’r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol. Mae'r ŵyl yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig arddangos eu hymchwil, datblygu sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu hanfodol, a chysylltu â chymheiriaid a staff ar draws y Brifysgol.
Roedd y digwyddiadau'n cynnwys cynadleddau ymchwil ôl-raddedig y cyfadrannau, gweithdai, a sesiynau rhyngweithiol, gan arwain at yr Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig ar 10 Mehefin.Yma, cyflwynodd ymchwilwyr o'r tair cyfadran bosteri yn dangos ehangder ac effaith eu gwaith — o atebion peirianneg ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a datblygiadau biofeddygol, i ymchwil sy'n llywio polisi ac ymarfer mewn addysg, gofal a busnes. Dyfarnwyd gwobrau posteri eleni i Kathryn Knight (enillydd) a Caitlin Maggs (ail yn y gystadleuaeth), y ddwy o’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys rownd derfynol Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe, lle mae cyfranogwyr yn cyflwyno eu hymchwil mewn tair munud yn unig gan ddefnyddio un sleid. Mae 3MT yn gystadleuaeth ryngwladol, a gynhelir mewn cannoedd o brifysgolion ledled y byd, sy'n herio ymchwilwyr i gyfleu syniadau cymhleth yn glir mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb cynulleidfa anarbenigol.Cyflwynodd 14 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol, a’r enillydd oedd Sabriya Hussain (Peirianneg Drydanol ac Electronig), a gyflwynodd ei gwaith ar ddatblygu systemau trosglwyddo pŵer diwifr ar gyfer rheolyddion calon a mewnblaniadau meddygol eraill, gyda’r nod o leihau llawdriniaethau, gwella profiad cleifion, ac arbed adnoddau’r GIG. Bydd hi nawr yn cynrychioli Abertawe yn rownd gogynderfynol 3MT y DU. Yn yr ail safle roedd Mohsin Ali (Peirianneg Sifil), y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar efeillio digidol mewn adeiladu â choncrit.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, meddai Sabriya: “Gwthiodd 3MT fi ymhell y tu hwnt i’m parth cysur… Mae siarad yn gyhoeddus yn rhywbeth rydw i wedi bod yn gweithio’n weithredol arno… [ac] mae gallu cyfleu fy ymchwil i gynulleidfa ehangach wedi bod yn brofiad hynod rymusol. Roedd y gystadleuaeth yn galed oherwydd bod y safon mor uchel, ond roedd hefyd yn ysbrydoledig clywed am yr ymchwil anhygoel sy'n cael ei chynnal gan ymchwilwyr ôl-raddedig eraill.”
Meddai Dr Teresa Phipps, Rheolwr Datblygu Ymchwilwyr Ôl-raddedig: “Mae’n fraint wirioneddol cefnogi ein myfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu’r sgiliau i gyfleu eu hymchwil gydag effaith.Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i alluogi ymchwil prifysgol i wneud gwahaniaeth i'n cymdeithas, i ddiwydiant a’r economi, a gobeithiwn y bydd digwyddiadau fel yr Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig yn rhoi cyfle gwerthfawr i'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ymarfer cyfleu pwysigrwydd eu gwaith, ar draws ystod mor ddiddorol o bynciau.”
Daeth yr arddangosfa i ben gyda chyhoeddi’r Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig, gan gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil, goruchwylio, ymgysylltu â’r cyhoedd, a chyfraniadau at ddiwylliant ymchwil a’r gymuned ymchwil.
Dyma'r enillwyr:
Gwobrau Ymchwil James Callaghan (i fyfyrwyr presennol)
- Enillydd: Aisha Almuhailan (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Rheoli)
Gwobrau Traethawd Ymchwil James Callaghan (ar gyfer traethodau ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar)
- Enillydd: Callum Lock (Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cyfrifiadureg)
- Ail safle: Lowri Wilkie (Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Seicoleg)
Gwobr Goruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig
- Enillydd Cyffredinol: Dr Leighton Evans, (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Cyfryngau)
- Enillwyr yn y Cyfadrannau:
- Dr Paul Albert (Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Daearyddiaeth)
- Dr Gwennan Higham (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Cymraeg)
- Yr Athro Amira Guirguis (Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Fferylliaeth)
Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ymchwil Ôl-raddedig
- Enillwyr Cydradd: Mamta Behera (Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Seicoleg) ac Emily Adams (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron)
Gwobrau Diwylliant a Chymuned Ymchwil Ôl-raddedig
- Gwasanaethau Proffesiynol: Tîm Cyfleusterau Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (Eleanor Parker, Caroline Summers, Jimmy Ward)
- Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig: Joseph Udeh (Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Rheoli)
Gwobr Menter Ymchwil Ôl-raddedig
- Enillydd: Luis Maia de Freitas (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron)
Mae'r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig yn parhau i fod yn uchafbwynt allweddol yn y calendr academaidd, gan ddangos amrywiaeth ac ansawdd ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn y byd go iawn.