Bio - Anne

MS ANNE TUTT

Mae Anne wedi bod yn aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Abertawe ers mis Gorffennaf 2020, gan wasanaethu fel Trysorydd y Brifysgol a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth a'r Pwyllgor Pensiynau o fis Ionawr 2024.

Mae Anne yn weithiwr cyllid proffesiynol o ran ei chefndir, a chanddi fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn sefydliadau preifat, sector cyhoeddus ac nid-er-elw fel cyfarwyddwr gweithredol ac anweithredol gyda ffocws ar lywodraethu, rheoli risg, strategaeth gyllid a datblygu.

Ar hyn o bryd mae gan Anne nifer o rolau cyfarwyddwr anweithredol yn y sectorau gofal iechyd ac addysg yn y Deyrnas Unedig a thramor.