Bio - Nan

MRS NAN WILLIAMS

  • Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor
  • Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Brifysgol am ragor o wybodaeth (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk)
  • Prifysgol Abertawe

Nan Williams yw Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe. Daeth yn aelod lleyg o'r Cyngor ym mis Ionawr 2024, a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2025, a bydd yn gweithredu tan fis Rhagfyr 2028.

Mae Nan yn arweinydd busnes, yn entrepreneur ac yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Hi yw sylfaenydd a phrif weithredwr y grŵp Four Agency Worldwide Limited sy'n gyfrifol am strategaeth, cyflwyno elw a cholled, gweithrediadau a rheoli masnachol, ac mae hi wedi rheoli rhaglen cydsoddiadau a chaffaeliadau llwyddiannus gan gyflwyno mwy na dwsin o gaffaeliadau.

Mae gan Nan bortffolio anweithredol eang sy'n canolbwyntio ar sefydliadau yng Nghymru. Mae hi'n  Llywydd Canolfan Cymry Llundain, yn aelod o fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru, yn aelod cyfetholedig o fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru, yn aelod o Gyngor, Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae hi'n gefnogwr sefydlu Funding Focus, sy'n ymgyrchu dros fwy o fuddsoddi mewn busnesau a arweinir gan fenywod a'r lleiafrifoedd.