Goi - Biography

MR GOI ASHMORE

  • Dirprwy-Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor
  • Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Brifysgol am ragor o wybodaeth (L.A.Woollard@swansea.ac.uk)
  • Prifysgol Abertawe

Goi yw Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn ei benodi'n Gadeirydd, roedd yn aelod o'r Cyngor ac yn Drysorydd y Brifysgol o Awst 2020 i Ragfyr 2023. 

Mae Goi wedi dal nifer o rolau gweithredol ac ar hyn o bryd mae'n Brif Swyddog Risg yn DF Capital Bank. Mae cefndir proffesiynol Goi mewn Trysorlys a Chyllid, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad uwch reolaeth mewn sefydliadau mawr a chymhleth yn y DU a thramor, gan gynnwys gweithredu fel Trysorydd Ewrop a'r Dwyrain Canol ar gyfer Banc Barclays. 

Mae gan Goi brofiad eang o'r fframwaith cyfrifyddu elusennol a phrofiad helaeth o amgylcheddau rheoleiddio mewn nifer o awdurdodaethau yn yr UE a'r DU trwy ei rolau proffesiynol a'i rolau NED.