MR LAURENCE CARPANINI
- Aelod Lleyg o'r Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Taliadau
- Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Brifysgol am ragor o wybodaeth (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk)
- Prifysgol Abertawe
Mae Laurence Carpanini yn ymgynghorydd annibynnol ac yn berchennog busnes sydd â 40 mlynedd o brofiad yn y sector ynni. Cyn dod yn ymgynghorydd annibynnol, arweiniodd Laurence ddatblygiad strategol Atebion Ynni Craffach ar ran IBM yn Ewrop, lle bu ganddo rôl flaenllaw wrth ddiffinio a chyfleu systemau ynni clyfar a'u rhoi ar waith, gan weithio wrth y rhyngwyneb rhwng strategaeth a pholisi, trawsnewid sefydliadau a galluogi technoleg. Mae wedi cydweithio â Llywodraethau ac Awdurdodau Rheoleiddiol wrth ddatblygu modelau marchnata mesuryddion clyfar; wedi cynghori ar strategaethau a rhaglenni ynni clyfar; wedi sefydlu consortia Ewropeaidd drwy geisiadau llwyddiannus am gyllid arloesi; ac wedi cynrychioli IBM ar fyrddau cyrff llywodraethol a sefydliadau ym myd diwydiant.
Penodwyd Laurence yn Aelod Lleyg o Gyngor Prifysgol Abertawe ym mis Rhagfyr 2022 ac ers mis Awst 2024, mae wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol.
Mae hefyd yn Llywydd y Clwb Diwydiannau Ynni; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cynghori Sefydliad Ynni Prifysgol Durham; yn Beiriannydd Siartredig ac yn Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol; ac yn un o Gymrodorion y Sefydliad Ynni.