MS MARCIA SINFIELD
- Aelod Lleyg o'r Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg
- Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Brifysgol am ragor o wybodaeth (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk)
- Prifysgol Abertawe
Mae Marcia'n aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Abertawe ers mis Rhagfyr 2020 ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg ers mis Chwefror 2024.
Mae Marcia'n gyfrifydd cymwysedig ac wedi bod yn ysgrifennydd cwmni ochr yn ochr â rolau uwch eraill mewn tai cymdeithasol a llywodraeth leol, gan roi profiad helaeth iddi o weithio mewn amgylchoedd rheoleiddiol.
Fel Prif Weithredwr Caredig, landlord cymdeithasol cofrestredig nid er elw, sydd â thua 3,00 o dai ar draws pum sir yn ne Cymru, mae Marcia'n arwain y tîm gweithredol i gyflwyno gwerth am arian drwy arweinyddiaeth strategol, cydweithredol, ac mae hi'n ymrwymedig i uchafu canlyniadau a chyfleoedd i denantiaid a'u cymunedau.