- Rhif y Swydd
- SU01609
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Meh 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dara Almeida Medina Dara.Almeidamedina@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae DATAMIND TRE yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) sy'n cefnogi mynediad diogel, sy'n cynnal preifatrwydd, at ddata sensitif ar gyfer ymchwil ac arloesi ar draws gofal iechyd, y byd academaidd a'r diwydiant. Mae'r rhaglen, yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn galluogi ymchwil o ansawdd uchel ar sail data sy'n cynnig effaith byd go iawn ar gyfer canlyniadau iechyd meddwl ac iechyd poblogaethau.
Rydym yn chwilio am Reolwr Data trefnus iawn i gefnogi'r gwaith cyflwyno gweithredol, llywodraethiant, a datblygiad parhaus y platfform DATAMIND TRE. Gan weithio'n agos ag ymchwilwyr, dadansoddwyr, arbenigwyr technegol, a rhanddeiliaid llywodraethiant, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gaffael a churadu data, rheoli metaddata, rheoli datgeliadau, rheoli mynediad defnyddwyr, a gweithgareddau sicrwydd ansawdd data ar draws y TRE.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod setiau data'n ddiogel, yn gywir, yn hygyrch ac yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, moesegol a llywodraethiant, gan gyfrannu at brosesau sy'n aliniedig a safonau GDPR, safonau data'r GIG a nodweddion amgylchedd ymchwil diogel cydnabyddedig.
Ar hyn o bryd mae'r swydd wedi'i hariannu am gyfnod penodol cychwynnol o ddwy flynedd, ac mae posibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid y prosiect a gofynion y rhaglen hyd at fis Mawrth 2030.
Beth rydym yn ei gynnig:
• Cyfle i weithio ar fentrau ymchwil ar sail data sy'n cael effaith.
• Amgylchedd gweithio cydweithredol ar sail cenhadaeth.
• Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid.
• Cyfleoedd datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
• Cyflog cystadleuol a chynllun pensiwn hael.
• Hawl i wyliau blynyddol hael a chymorth lles.
• Mynediad at ystod eang o fuddion staff Prifysgol Abertawe a gwasanaethau cymorth i gyflogeion.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Sicrhewch fod eich cais yn dangos yn glir sut rydych chi'n bodloni pob maen prawf yn y fanyleb person, i helpu'r panel wrth asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi CV wedi'i ddiweddaru a llythyr eglurhaol byr yn amlinellu eu profiad perthnasol, yn benodol mewn perthynas a rheoli amgylcheddau data diogel neu sensitif.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr