Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01601
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
21 Meh 2026
Dyddiad Cyfweliad
30 Meh 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Andrew Kemp A.H.Kemp@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Gan weithio'n agos gyda'r Athro Andrew Kemp (Cyd-arweinydd ar gyfer y ffrwd waith seicoleg), bydd  deiliad y swydd yn cefnogi ymchwil ar ddimensiynau ymddygiadol a seicolegol ôl-osod bioffilig ac addasu at yr hinsawdd drefol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned (e.e. recriwtio a sicrhau cyfranogiad cynhwysol), casglu a dadansoddi data (gan gynnwys dyluniadau dulliau cymysg a mesurau ailadroddus), a chyfrannu at ysgrifennu canfyddiadau i'w cyhoeddi a'u lledaenu. Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn gweithio mewn tîm rhyngddisgyblaethol ac yn ymuno â'r Grŵp Ymchwil Lles Cynaliadwy, gan gyfrannu at ymchwil effeithiol i gynaliadwyedd, addasu at yr hinsawdd, a lles.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

A wnewch chi gynnwys manylion am unrhyw brofiad blaenorol sy'n berthnasol i'r rôl hon, yn enwedig mewn ymchwil, casglu a dadansoddi data, ac ymgysylltu â phartneriaid cymunedol neu leoliadau cymhwysol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr