Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01534
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
13 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
30 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Mawrth 2028, yn gweithio ar sail amser llawn.

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd neu Swyddog Ymchwil gan ddibynnu ar brofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymchwil atal hunanladdiad, hunan-niweidio ac iechyd meddwl blaenllaw sydd wedi sicrhau dros £40 miliwn mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf. Dan arweiniad yr Athro Ann John, mae'r tîm yn canolbwyntio ar waith ymchwil o ran atal hunanladdiad, iechyd meddwl plant a phobl ifanc a hunan-niweidio. Yr Athro Ann John yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ac mae'n Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl.

Byddwch yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol gyda phortffolio o brosiectau ar draws NCSR, DATAMIND a’r Consortiwm Iechyd Cyhoeddus. Byddwch yn cymhwyso eich ymchwil, arbenigedd epidemiolegol, dadansoddol a/neu raglennu i ateb cwestiynau o ran hunanladdiad, hunan-niweidio ac iechyd meddwl drwy ddadansoddi setiau data ar lefel y boblogaeth o'r radd flaenaf sy'n cynnwys biliynau o gofnodion gan ddefnyddio cymysgedd o fethodolegau dadansoddol traddodiadol a newydd a darparu tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer.

Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil trefnus, brwdfrydig a hunangymhellol, sydd â hanes profedig o greu cyhoeddiadau a phrofiad o epidemioleg a dadansoddi setiau data perthynol mawr i ymuno â'r tîm. Mae'r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at ymchwil arloesol sy'n cael effaith yn y byd go iawn.

Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth a thyfu'n broffesiynol, fe’ch anogir i gyflwyno cais heddiw!

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylech gynnwys eich rhestr Gyhoeddiadau lle bo'n berthnasol

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd (G7 Cynorthwy-ydd Ymchwil) Lawrlwytho Disgrifiad Swydd (G8 Swyddog Ymchwil) Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr