- Rhif y Swydd
- SU01516
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 12 Mai 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Lucy Barlow Lucy.barlow@wales.nhs.uk
- Claire Stafford Claire.stafford@wales.nhs.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae gennym 2 swydd barhaol, un yn gweithio 28 awr yr wythnos ac un 21 awr yr wythnos.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Cyfleuster Ymchwil Glinigol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar ystod o astudiaethau ymchwil clinigol gan gynnwys prosiectau fferyllol, a phrosiectau a ariennir gan gymheiriaid mewn amrywiaeth o feysydd clefydau. Mae'r rôl yn cynnwys gwybodaeth fanwl am dreialon clinigol a gweithdrefnau moesegol a rheoleiddiol ICH/GCP a Chyfarwyddeb Treialon Clinigol yr Undeb Ewropeaidd a phrofiad blaenorol o gynnal astudiaethau ymchwil glinigol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ystod o astudiaethau ymchwil glinigol gan gynnwys prosiectau fferyllol, a phrosiectau wedi'u hariannu gan gymheiriaid mewn ystod o feysydd clefydau. Bydd hyn yn cynnwys nodi cleifion addas, recriwtio, ac adolygu'r holl gleifion boed mewn cyd-destun cleifion allanol neu gleifion mewnol a darparu ymchwiliadau clinigol penodedig. Fel arbenigwr yn y maes hwn, bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am bob agwedd ar yr astudiaeth mewn cysylltiad â'r Prif Ymchwilydd (Ymgynghorydd).
Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio ac yn gweithio gydag aelodau eraill o'r tîm ymchwil fel mentor.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr