- Rhif y Swydd
- SU01501
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 27 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Elizabeth Jones e.s.jones@swansea.ac.uk
- Sarah Bater s.l.bater@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Swyddog Contractau Ymchwil yn ymuno â Gwasanaeth Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe ac yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gweithgarwch ymchwil y Brifysgol.
Gan weithio yn y Tîm Contractau, byddwch yn helpu academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol i roi'r cytundebau sydd eu hangen ar waith i gyflawni prosiectau gyda phartneriaid ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys drafftio, adolygu a thrafod ystod eang o gytundebau ymchwil a masnachol, gan sicrhau bod buddiannau'r Brifysgol yn cael eu diogelu wrth alluogi cydweithrediadau i symud ymlaen.
Byddwch yn gweithio'n agos gydag academyddion, staff cymorth ymchwil a phartneriaid allanol i gytuno ar delerau contractau gan gynnwys meysydd fel eiddo deallusol, hawliau cyhoeddi, atebolrwydd, telerau talu a risg sefydliadol. Mae'r swydd yn cynnwys rheoli eich portffolio eich hun o gytundebau a darparu cyngor clir i gydweithwyr, fel eu bod yn deall rhwymedigaethau cytundebol a gofynion cyllidwyr.
Mae'r Tîm Contractau yn rhan o Wasanaeth Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe, sy'n dwyn ynghyd gydweithwyr gwasanaethau proffesiynol sy'n cefnogi datblygu, cyllid a chyflenwi ymchwil ar draws tair cyfadran y Brifysgol. Mae staff yn gweithio'n agos gyda Hybiau Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth y cyfadrannau, gan ddarparu arbenigedd arbenigol wrth barhau i fod yn rhan o'r amgylchedd ymchwil.
Dyma gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad o gontractau masnachol neu ddrafftio cyfreithiol sydd eisiau datblygu ei arbenigedd wrth weithio yng nghanol prifysgol brysur sy'n canolbwyntio ar ymchwil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr