Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01466
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£57,422 i £66,537 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
8 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Mai 2028, gan weithio’n amser llawn.

Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am Reolwr Rhaglen profiadol a strategol i arwain cam nesaf amgylchedd ymchwil dibynadwy DATAMIND, platfform cenedlaethol sy'n cefnogi ymchwil iechyd meddwl diogel sy'n cynnal preifatrwydd. Byddwch yn gweithio yn nhîm Platfform eYmchwil Diogel (SeRP) Prifysgol Abertawe, arweinydd a gydnabyddir yn genedlaethol mewn isadeiledd data diogel sy'n cefnogi ymchwil ar raddfa fawr i iechyd. Ariennir DATAMIND drwy Raglen Nodau Iechyd Meddwl Swyddfa'r Gwyddorau Bywyd ac mae wedi'i ariannu tan fis Mawrth 2030 gan gynnig platfform cryf i ddatblygu rhaglen gynaledig. 

Byddwch yn atebol i'r Athro Ann John ac yn gweithio ar Gampws Parc Singleton mewn rôl hybrid, gan gynnig cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth weithredol i TRE. Gan weithio ar draws cymunedau academaidd, technegol a pholisi, byddwch yn rheoli tîm craidd bach ac yn cydweithio'n agos â phartneriaid ehangach i gyflwyno gwasanaeth perfformiad uchel, dibynadwy.

Mae'r rôl hon ar y croestoriad rhwng ymchwil, isadeiledd digidol a budd y cyhoedd. Byddwch yn llunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer y platfform wrth sicrhau llywodraethiant cryf, trosolwg ariannol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydymffurfiaeth reoleiddio. Byddwch hefyd yn datblygu modelau gwasanaeth cynaliadwy, yn goruchwylio safonau diogelwch gwybodaeth ac yn cefnogi twf parhaus ac enw da cenedlaethol DATAMIND.

Dyma gyfle prin i arwain isadeiledd ymchwil o bwys cenedlaethol mewn prifysgol sydd â phwyslais mawr ar ymchwil, a gwneud cyfraniad ystyrlon i wella dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl, eu hatal a'u trin.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr