Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01398
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Chwef 2026
Dyddiad Cyfweliad
3 Maw 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Prof Matthew Davies m.l.davies@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle gwych i ymchwilydd ôl-ddoethurol gyfrannu at raglen REACH-PSM, sef cydweithrediad rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau gweithgynhyrchu cynaliadwy a chylchol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fodiwlau solar perofsgit.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ymchwil arbrofol ar ailweithgynhyrchu, ailddefnyddio ac ailbrosesu modiwlau solar perofsgit carbon meso-fandyllog, gan gynnwys adfer swbstradau, ail-fformiwleiddio inc, adfer deunyddiau a saernïo dyfeisiau ailadroddus. Mae'r rôl yn dwyn ynghyd wyddor deunyddiau, peirianneg dyfeisiau a gweithgynhyrchu cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar gefnogi trosi arloesi yn y labordy tuag at ddulliau gweithgynhyrchu y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa ehangach.

Byddwch yn rhan o'r Grŵp Ffotocemeg Gymhwysol a'r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio mewn amgylchedd ymchwil cefnogol a rhyngddisgyblaethol lle bydd gennych fynediad at gyfleusterau rhagorol a phartneriaethau diwydiannol cryf. Mae'r rôl yn cynnwys cydweithredu'n agos â phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gweithgareddau i feithrin gallu mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig, gan gyfrannu at effaith gymdeithasol gadarnhaol ar fynediad at ynni a gweithgynhyrchu cynaliadwy.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi i ddatblygu ei broffil ymchwil, cyfrannu at gyhoeddiadau ac allbynnau prosiectau, ymgysylltu â phartneriaid allanol a chymryd rhan yn natblygiad gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol, wrth helpu i hyrwyddo maes cynyddol ffotofoltäig cylchol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr