Campws Parc Singleton o'r awyr

Ar ôl blwyddyn heriol iawn i gymunedau ar draws y byd, mae Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, yn trafod sut, trwy ei harbenigedd ymchwil, mae Prifysgol Abertawe yn dod â phobl a syniadau ynghyd i helpu i newid ein byd er gwell.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi dangos i ni fod y dyfodol yn fwy anrhagweladwy nag erioed. Mae effeithiau pandemig Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd wedi cael eu hamlygu, yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan weld o lygad y ffynnon fod partneriaethau’n hollbwysig i waith ymchwil drwy gydweithio â’r GIG i ragfynegi ac olrhain trywydd y pandemig, defnyddio ein sgiliau i gynhyrchu cyfarpar diogelu, a gweithio gyda’n cymunedau lleol i ddeall effaith gymdeithasol y pandemig.

Gan adeiladu ar lwyddiant Abertawe yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, rydym yn cydnabod bod rhagoriaeth ein gwaith ymchwil ac arloesi yn cyd-fynd ag ymrwymiad trosgynnol i weithio mewn partneriaethau. Mae gennym yr hawl i ymfalchïo yn ein partneriaethau ymchwil uchel eu bri â phrifysgolion eraill ac awdurdodau cyhoeddus, elusennau a diwydiant, yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym yn brifysgol â phwyslais rhyngwladol sy’n ymrwymedig i ddatrys heriau byd-eang, gan fynd ag agenda codi’r gwastad rhagddi’n genedlaethol a chydweithio â phartneriaid dramor. Mae’r ymagwedd hon at gyd-greu yn parhau i fod yn un o gonglfeini pwysig ein huchelgais i lywio arferion a pholisïau er lles cymdeithasol.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi hefyd fod nifer a gwerth y dyfarniadau cyllid ymchwil ac arloesi yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21 wedi torri tir newydd. Dros y cyfnod hwnnw o 12 mis, dyfarnwyd £74.8m i Brifysgol Abertawe am 407 o gynigion llwyddiannus, gan ragori ar gyfanswm y llynedd, sef £66.4m. Rydym yn adennill rhagor o gostau cyffredinol nag erioed er mwyn cynnal ein cymuned ymchwil.

Rydym yn ymfalchïo yn ein hamgylchedd ymchwil, sy’n galluogi staff a myfyrwyr i ffynnu ac sy’n helpu arweinwyr heddiw ac yfory i ddatblygu. Gan edrych tua’r dyfodol, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein gwaith ymchwil sy’n cael effaith fawr, gan fynd i’r afael â’r her o sicrhau allyriadau sero-net, ynghyd ag ymdrin â newid yn yr hinsawdd, meithrin cymdeithas gysylltiedig a chynhwysol, hybu iechyd a lles a chroesawu cyfoeth ein lle, ein treftadaeth a’n diwylliant. Wedi’r cwbl, yn ôl Zora Neale Hurston: “ Ymchwil yw chwilfrydedd wedi’i ffurfioli. Busnesa at ddiben penodol ydyw.”

Bydd heriau newydd ac annisgwyl yn y dyfodol a fydd yn gofyn am atebion dychmygus a rhyngddisgyblaethol, ac rydym wedi creu’r sefydliad cyntaf ar gyfer astudiaethau uwch yng Nghymru, sef Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n cael effaith fawr.

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae gennym weledigaeth gyfunol i wneud gwaith ymchwil sy’n ysgogi’r gymuned, gan ddod â syniadau creadigol, arbenigedd diamheuol a phobl dalentog ynghyd mewn cymuned ystwyth sy’n ceisio llywio ein byd er gwell.

Rhannu'r stori