Llun o gampws Singleton o'r awyr

Yng ngoleuni'r pandemig sy'n parhau, mae prifysgolion yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r sefyllfa bresennol o ran y cyfyngiadau symud ac maent yn gofyn i fyfyrwyr beidio â dychwelyd i'r campws tan ddiwedd y tymor  (26 Mawrth 2021). Felly, bydd Prifysgol Abertawe yn oedi addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y rhai nad oes rhaid iddynt fod yma ar gyfer eu rhaglenni nes yr adeg hon.

Rydym yn deall y bydd llawer o fyfyrwyr yn siomedig bod oedi cyn gallant ddychwelyd i'r campws, ond hoffem eu sicrhau bod y Brifysgol yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn i'w cefnogi yn ystod yr amser hwn a sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn addysg o safon a diogelu gwerth eu gradd.

Beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr?

  • Gofynnwn i fyfyrwyr peidio â dychwelyd i'r campws nes bod addysgu ar y safle yn ailddechrau ar gyfer eu cwrs, bod yn rhaid iddynt wneud hynny at ddibenion ymchwil neu fod ganddynt amgylchiadau personol penodol.
  • Bydd yr addysgu'n parhau ar-lein ar gyfer y cyfnod estynedig newydd hwn, gyda swm cyfyngedig o addysgu wyneb yn wyneb yn parhau i'r rhai y gofynnwyd iddynt eisoes ddychwelyd a rhai ychwanegiadau newydd. Os bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd cyn 26 Mawrth, yna bydd y Coleg/ Ysgol yn cysylltu â nhw’n fuan.
  • Dylai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig barhau â'u hymchwil gartref lle bynnag y bo'n bosib.  Os yw'n hanfodol cael mynediad i'r campws ar gyfer gwaith ymchwil, erys yr un broses ar waith mewn Colegau ar gyfer cael mynediad i labordai a chyfleusterau eraill ar y campws.
  • Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisoes ar y campws, ein cyngor yw aros yma a sicrhau eich bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i'w cefnogi chi drwy gydol y cyfnod hwn.
  • Os ydynt yn cyfranogi mewn gweithgareddau ar y campws, gofynnir iddynt drefnu prawf llif unffordd.
  • Yn ddiweddar, cadarnhaodd y Brifysgol gostyngiad rhent i fyfyrwyr yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol (Campws y Bae, Tŷ Beck, Campws Parc Singleton a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan) y gofynnwyd iddynt aros gartref a pheidio â dychwelyd i Abertawe oherwydd cyfyngiadau Covid.  Bydd y gostyngiad hwn yn cael ei ymestyn i fodloni'r amserlen newydd.
  • Mae ein gwasanaeth cymorth Covid dynodedig, MyUniSupport, ar gael i helpu gydag ymholiadau ac mae gennym amrywiaeth o ddarpariaethau ar gael i unrhyw un sy'n cael y sefyllfa bresennol yn anodd. Gweler ein tudalennau gwe dynodedig i gael mynediad at y gwasanaethau.

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr o ran arweiniad gan Lywodraeth Cymru drwy e-bost, Cylchlythyr y Myfyrwyr a'n tudalennau gwe Cwestiynau Cyffredin dynodedig.

Rhannu'r stori