A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Dr Troy Sagrillo

Dr Troy Sagrillo

Uwch-ddarlithydd, Classics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513538

Cyfeiriad ebost

213
Ail lawr
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Troy Leiland Sagrillo yn Uwch Ddarlithydd mewn Eifftoleg yn Adran y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Ôl-raddedig ar gyfer graddau Addysgedig ac Ymchwil yn yr adran.

Mae prif feysydd diddordeb ymchwil Dr Sagrillo yn canolbwyntio ar hanes yr Aifft hynafol yn dilyn cyfnod imperialaidd y Deyrnas Newydd, yn enwedig yn ystod y cyfnod pan oedd Libya’n rheoli’r wlad (Llinachau 22–24), yn ogystal â llinachau dilynol cyn dyfodiad Alecsander Fawr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi datblygu diddordeb cynyddol yn nerbyniad yr Aifft hynafol mewn cymdeithas gyfoes, yn y Gorllewin ac yn Nwyrain Asia, a’r defnydd o gemau fideo fel cyfrwng ar gyfer addysgu am hanes a’r henfyd.

Cyn ei benodiad i Brifysgol Abertawe, roedd yn Ddarlithydd Gwadd mewn Eifftoleg yn Adrannau Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Peking, Beijing, Tsieina; ac yn ddarlithydd yn yr Adran Anthropoleg, Prifysgol Colorado yn Boulder, UDA.

Mae gan Dr Sagrillo radd PhD mewn Eifftoleg o’r Katholieke Universiteit Leuven, Gwlad Belg; roedd ei draethawd hir ar deyrnasiad brenin Libya, Shoshenq I (Sisac yn y Beibl), sylfaenydd Llinach 22. Cwblhaodd radd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn Archaeoleg Syriaidd-Palestiniaidd yn Adran Astudiaethau’r Dwyrain Agos, Prifysgol Arizona, Tucson. Mae ganddo hefyd radd Baglor Celfyddydau Cain (BFA) mewn Darlunio a Dylunio Graffeg o Sefydliad Celf Dinas Kansas, Dinas Kansas, Missouri, ac mae’n defnyddio ei sgiliau artistig fel epigraffydd a darlunydd archaeolegol ar deithiau archaeolegol yn yr Aifft.

Meysydd Arbenigedd

  • Trydydd Cyfnod Canolradd a Chyfnodau Hwyr yr Aifft
  • Hanes a hanesyddiaeth yr Aifft hynafol
  • Cysylltiadau tramor a rhyng-gysylltiadau yr Aifft hynafol yn ystod yr Oes Efydd Hwyr a’r Oes Haearn
  • Derbyniad yr Aifft hynafol yn niwylliant poblogaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Hanes a hanesyddiaeth yr Aifft hynafol

Rhyng-gysylltiadau trawsddiwylliannol yr Aifft hynafol

Iaith yr Aifft – y Cyfnodau Canol a Hwyr

Cydweithrediadau