A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Dr Stephen Harrison

Dr Stephen Harrison

Darlithydd mewn Hanes yr Henfyd, History
105
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Stephen Harrison yn hanesydd Gwlad Groeg yr henfyd a'r hen Ddwyrain Agos. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y chweched i'r ail ganrif Cyn yr Oes Gyffredin (COG), cyfnod yr Ymerodraeth Achaemenid (Persia), Alexander Fawr, a'r teyrnasoedd Helenistaidd. Mae'n archwilio'r rhyngweithio rhwng yr ymerodraethau hyn gan herio'r cyfnodau traddodiadol a chroesi ffiniau disgyblaethau. Mae gan Stephen ddiddordeb arbennig yn y rhyngweithio rhwng Gwlad Groeg a'r Dwyrain Agos yn y cyfnod hwn ac mae'n defnyddio brenhiniaeth i archwilio'r berthynas hon. Yn fwy cyffredinol, mae ganddo ddiddordeb yng nghynrychiolaeth pŵer ac mewn dulliau rhyngddisgyblaethol o ymdrin â brenhiniaeth ac ymerodraeth.

Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu monograff yn seiliedig ar ei draethawd doethurol. Enw'r llyfr yw Achaemenid Kingship, Alexander the Great, and the Early Seleucids, ac mae'r llyfr dan gontract gyda’r Edinburgh University Press.

Meysydd Arbenigedd

  • Alexander Fawr
  • Ymerodraeth Achaemenid
  • Ymerodraeth Seleucaidd
  • Byd Helenistaidd
  • Persia Hynafol
  • Brenhiniaeth