Trosolwg
Staff Gwyddor Data IechydMae Harshal yn Wyddonydd Data ac yn Rheolwr Cymorth i Ddefnyddwyr yn nhîm Gwasanaethau Defnyddwyr a Chymorth Data Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei waith yn cefnogi defnydd diogel ac effeithiol o ddata a gesglir yn rheolaidd yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy SAIL a sicrhau ei fod yn barod at ddibenion ymchwil. Mae ei gyfrifoldebau'n cynnwys pennu cwmpas prosiectau, rheoli datgeliadau, datblygu metadata ar lefel gwerth, ansawdd data a chymorth i ymchwilwyr.
Mae ei waith ar y croestoriad rhwng gwyddor data poblogaethau, ymchwil ym maes iechyd meddwl ac iechyd cyhoeddus, ansawdd data, metadata ac isadeiledd data ymchwil. Mae ei brofiad ymchwil wedi canolbwyntio ar ddefnydd data cysylltiedig ar raddfa'r boblogaeth i gefnogi ymchwil ym maes iechyd meddwl ac iechyd cyhoeddus, gan gynnwys gwaith blaenorol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc, hunanladdiad a hunan-niweidio, ac adrodd sy'n berthnasol i bolisïau ar gyfer partneriaid yn Llywodraeth Cymru a'r GIG.
Cyn ymuno â'r tîm Gwasanaethau Defnyddwyr a Chymorth Data, roedd Harshal yn gweithio fel Gwyddonydd Data Iechyd Meddwl, ac roedd ei waith yn cynnwys echdynnu a phrosesu data, datblygu carfannau, asesu ansawdd data, datblygu llifoedd gwaith dadansoddol atgynyrchadwy a throsi cwestiynau ymchwil cymhwysol yn ofynion data strwythuredig.
Mae gan Harshal gefndir academaidd mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Wybyddol, ynghyd â phrofiad o ddata iechyd a gweinyddol a gesglir yn rheolaidd, data addysg a setiau data arolygon, cysylltedd data, setiau data sy'n deillio o'r cyfryngau cymdeithasol a dulliau niwroddelweddu gan gynnwys electroenceffalograffeg a fMRI. Mae ei ddiddordebau ehangach yn cynnwys gwyddor data iechyd, epidemioleg iechyd meddwl, datblygu metadata ar lefel gwerth, ansawdd data, iechyd meddwl cyfrifiadol, a gwaith sy’n cysylltu data iechyd ar raddfa'r boblogaeth ag ymagweddau niwrowyddoniaeth a niwroddelweddu.
Ochr yn ochr â'i rôl gwyddor data, mae Harshal yn cyfrannu at addysgu, mentora a gweithgarwch cynnwys y cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys darlithio fel darlithydd gwadd ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion, cymorth i gydweithwyr gyrfa gynnar, a gwaith cynnwys cleifion a'r cyhoedd sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc.