Dr Menna Brown

Dr Menna Brown

Uwch-ddarlithydd, Medicine

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Uwch-ddarlithydd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yw Dr Menna Brown. Mae hi'n addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gyfrannu ar draws ystod o raglenni yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae gan Menna 15 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil iechyd a lles mewn cyd-destun meddygol ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda staff a chleifion ar draws GIG Cymru a Deoniaeth Cymru er mwyn ymgymryd ag ymchwil ansoddol sy'n edrych ar iechyd a lles mewn ystod o gyd-destunau proffesiynol a'r sector cyhoeddus.

Cwblhaodd Menna ei gradd israddedig (BSc) mewn Seicoleg gan arbenigo mewn seicoleg iechyd (MSc) a hybu iechyd a newid mewn ymddygiad iechyd mewn cyd-destun digidol ar lefel ôl-raddedig. Yn 2021, cwblhaodd ei hastudiaethau PhD yn llwyddiannus mewn Meddygaeth a Gofal Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn archwilio rôl lles emosiynol wrth bennu canlyniadau iechyd corfforol mewn cyd-destun iechyd digidol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd meddwl a lles, hybu iechyd mewn cyd-destun iechyd digidol, materion iechyd cyhoeddus, presgripsiynu cymdeithasol a defnydd addysgol o dechnoleg ddigidol.

Meysydd Arbenigedd

  • Seicoleg Iechyd
  • Newid mewn Ymddygiad Iechyd
  • Hybu Iechyd
  • Iechyd y boblogaeth a'r cyhoedd
  • Iechyd Digidol
  • Dulliau Ymchwil Ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Menna Brown yn cynnwys seicoleg iechyd, hybu iechyd, newid mewn ymddygiad iechyd, iechyd digidol, arloesi mewn iechyd digidol gan gynnwys gemeiddio ac iechyd cyhoeddus. Ymagweddau therapiwtig at anhwylderau meddyliol cyffredin a dulliau ymchwil ansoddol gyda ffocws ar Ddadansoddi Thematig Anwythol.

Ymchwil Cydweithrediadau