Trosolwg
Mae Dr Kathryn Williams yn ymchwilydd gyrfa gynnar sy’n Awtistig. Canolbwyntiodd ei PhD ar gyfathrebu niwronormadol, disgwyliadau normadol a chyflwyniadau o salwch, a sut mae'r rhain yn cyfrannu at anghyfiawnderau epistemig i gleifion sy'n oedolion Awtistig.
Ar hyn o bryd mae Kathryn yn gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil dros gyfnod mamolaeth ar y prosiect Autism from Menstruation to Menopause.