Trosolwg
Ymunodd yr Athro Wilson Muleya â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2025 fel Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ac yntau’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac yn Brif Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch, mae'n adnabyddus am ysgogi mentrau addysgol trawsnewidiol, cryfhau cynaliadwyedd academaidd, a meithrin partneriaethau effeithiol ar draws sectorau.
Dechreuodd yr Athro Muleya ei yrfa academaidd yn 2002 ar ôl cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Birmingham. Yn dilyn penodiad academaidd cychwynnol ym Mhrifysgol Birmingham, ymunodd â Phrifysgol Kingston (Llundain) yn 2003, lle bu’n gweithio am fwy nag ugain mlynedd. Am bron degawd, bu'n Bennaeth yr Adran Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, gan arwain yr adran drwy drawsnewidiadau sylweddol a heriau ariannol cymhleth a oedd yn effeithio ar y sector cyfan. Dan ei arweinyddiaeth, ehangodd yr adran ei phortffolio academaidd a mentrau cyfnewid gwybodaeth arloesol, gan gyfrannu at Brifysgol Kingston yn cyrraedd y brig o ran y brifysgol orau yn Llundain ar gyfer Gwaith Cymdeithasol yn The Guardian University Guide 2025.
Mae wedi gweithio ar y rhyngwyneb rhwng addysg uwch ac ymarfer proffesiynol gan ddangos ei ymrwymiad i gyd-ddatblygu addysg sy'n seiliedig ar ymarfer sy'n diwallu anghenion y gweithlu ac sy'n cryfhau cynaliadwyedd hirdymor proffesiynau gofal cymdeithasol. Yn 2018, cymerodd ran allweddol wrth sefydlu Partneriaeth Cyd-ddatblygu Addysgu Gwaith Cymdeithasol yn ne-orllewin Llundain, sydd bellach yn ffynnu. Sicrhaodd y bartneriaeth £2.3miliwn o gyllid gan y llywodraeth gan weithio mewn partneriaeth â deg awdurdod lleol a dau sefydliad yn y sector gwirfoddol. Gwnaeth y cydweithrediad hwn wella dysgu myfyrwyr, canlyniadau graddedigion a chapasiti ymarfer rhanbarthol yn sylweddol. Roedd ei brofiad yn y maes hwn hefyd yn amlwg yn 2019 pan fu'n llwyddiannus wrth arwain tendr a thîm a ddatblygodd Radd-brentisiaeth Integredig, sydd nawr yn ffynnu ledled Llundain, mewn cydweithrediad â 33 o Awdurdodau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Lleol yn Llundain, rhaglen sy'n cynhyrchu dros £1.2 miliwn mewn incwm myfyrwyr bob blwyddyn.
Mae wedi arddangos ymrwymiad parhaus i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb drwy gyd-gadeirio gwaith Siarter Cydraddoldeb Hil Prifysgol Kingston a arweiniodd at y brifysgol yn adnewyddu ei Gwobr Efydd unwaith eto.