Trosolwg
Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yw Martyn Quigley. Cyn hyn, bu Martyn yn gweithio ym Mhrifysgol Nottingham lle ymgymerodd hefyd â PhD mewn Seicoleg a ariannwyd gan yr ESRC gyda'r Athro Mark Haselgrove. Cyn y PhD, bu Martyn yn gweithio gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae gwaith ymchwil Martyn wedi canolbwyntio'n bennaf ar ffactorau sy'n dylanwadu ar ddysgu ac ymddygiad a sut gall y rhain gael eu hesbonio drwy ddamcaniaethau cysylltiadol dysgu. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol ac mae wedi archwilio effaith ffactorau megis sylw, osgoi, pryder a sgitsoteipi ar ddysgu ac ymddygiad.
Mae Martyn yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac mae ganddo ddiddordeb ymchwil mewn addysgeg addysg uwch gan gynnwys cyfranogiad myfyrwyr, cyflogadwyedd a lles, gyda ffocws penodol ar sut mae gwahaniaethau unigol, megis nodweddion personoliaeth, yn gallu esbonio amrywiad ym mhrofiadau addysg uwch myfyrwyr.