Dr Krishnamoorthy

Dr Karpagam Krishnamoorthy

Darlithydd – Addysgu Uwch (Anatomeg), Medicine
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Karpagam Krishnamoorthy, a elwir yn boblogaidd gan ei myfyrwyr yn “Dr K”, yn Anatomydd brwdfrydig. Deintyddiaeth yw ei chefndir, ac, oherwydd ei chariad at addysgu, bu'n astudio gradd Meistr a PhD mewn Anatomeg Feddygol (India). Bu'n ddarlithydd mewn amryw o sefydliadau yn India ac mae hi'n gyffrous am ei gwaith gyda'i thîm yn Ysgol Feddygaeth Abertawe.

Pan symudodd i'r DU, roedd diddordeb mawr ganddi yn y system addysg feddygol, a'i hysgogodd i astudio gradd Meistr arall mewn Anatomeg Ddynol gyda rhagoriaeth o "Brifysgol Dundee". Mae gan Dr K gefndir mewn seicoleg, cyngor a chwnsela hefyd ac mae wedi ymgymryd â rôl cymorth bugeiliol yn yr holl sefydliadau y bu'n gweithio ynddynt.  Gwnaeth hefyd ysgogi syniadau ymchwil ym maes addysg, y gwyddorau ymddygiadol ac anatomeg ddynol o lefel israddedig - ac mae'r gwaith hwn i'w weld yn ei chyhoeddiadau mewn cyfnodolion. I gydnabod ei hymdrechion mewn ymchwil, dyfarnwyd yr ail wobr uchaf am gyhoeddiadau iddi ym Mhrifysgol Saveetha yn 2016-17. Cafodd ei henwebu hefyd am y wobr addysgu gorau mewn cyfadran yn 2019-20 gan Goleg Deintyddol SRM gan fyfyrwyr deintyddol blwyddyn 1.

Mae Dr K yn cymryd rhan mewn amryw o gynadleddau a gweithdai anatomeg lle mae wedi cyflwyno papurau ar addysg anatomegol. Yn ystod ei gwaith ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Dundee, bu'n gweithio ar ddefnyddio offer rhithwir 3D mewn Addysg Anatomegol a dilynodd ail fodiwl dewisol ar "Ddysgu ac Addysgu".  Felly mae'n edrych ymlaen at weithio gyda'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno mwy o arloesi i addysg feddygol.

Meysydd Arbenigedd

  • Anatomeg Ddynol
  • Gwyddorau Ymddygiadol
  • Addysg Feddygol
  • Anatomeg 3D
  • Iechyd a Lles

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Karpagam yn amrywio o anatomeg ddynol i seicoleg, ffitrwydd a lles.

Ymchwil