Trosolwg
Mynychodd Joe Brifysgol Abertawe, gan raddio yn 2015 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn BSc (Anrh.) Technoleg Glinigol. Mae hefyd wedi cwblhau gradd Meistr o Brifysgol Rhydychen mewn Bioleg Ymbelydredd. Mae Joe wedi gweithio yn y GIG fel Technolegydd Meddygaeth Niwclear, cyn symud i Brifysgol Abertawe i ddarlithio mewn Technoleg Ffiseg Feddygol. Mae'n dysgu modiwlau arbenigol mewn Meddygaeth Niwclear, Ffiseg Radiotherapi a Ffiseg Ymbelydredd, yn ogystal â meysydd deddfwriaeth a thechnegau delweddu meddygol.
Ar hyn o bryd mae Joe yn ymgymryd â PhD rhan-amser mewn cyfathrebu canser ac addysg cleifion mewn radiotherapi.