An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Mr Iwan Williams

Uwch-ddarlithydd, Media

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
406
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Iwan gyda Phrifysgol Abertawe fel darlithydd Cysylltiadau Cyhoeddus dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2013, yn dilyn gyrfa fel cyfathrebydd proffesiynol. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac yn darlithio modiwlau cyfrwng-Cymraeg is ac ôl-raddedig ar gysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu chwaraeon, cyfathrebu corfforaethol a marchnata. Fel yr unig ddarlithydd cysylltiadau cyhoeddus cyfrwng-Cymraeg yng Nghymru, mae ei ddiddordeb ymchwil cyfredol yn cynnwys y newid yn y berthynas rhwng newyddiadurwyr chwaraeon ac adrannau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu sefydliadau chwaraeon. 

Cyn dechrau ar ei yrfa academaidd, Iwan oedd Pennaeth y Cyfryngau, Brand ac e-Ddemocratiaeth y Cynulliad Cenedlaethol, a bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd strategol i’r Central Office of Information, asiantaeth farchnata a chyfathrebu llywodraeth y DU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe’i secondiwyd i fod yn gyfarwyddwr marchnata a recriwtio’r Llynges Frenhinol, gyda chyfrifoldeb am ddatblygu ymgyrchoedd recriwtio teledu, sinema a digidol ar gyfer y Llynges a’r Morlu. Mae hefyd wedi treulio cryn amser yn gweithio yn Seland Newydd, Awstralia a’r Unol Daleithiau.  

Meysydd Arbenigedd

  • Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Newyddiaduraeth chwaraeon
  • Cyfathrebu chwaraeon a chysylltiadau cyhoeddus
  • Cyfathrebu corfforaethol
  • Marchnata
  • Cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu cyfrwng-Cymraeg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog a chyfathrebu ar draws amryw blatfform - y cyfryngau etifeddol, plattfformau digidol. Diddordeb ymchwil cyfredol yn cynnwys y newid yn y berthynas rhwng newyddiadurwyr chwaraeon ac adrannau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu sefydliadau chwaraeon. 

Prif Wobrau