Professor Fiona Verity

Yr Athro Fiona Verity

Athro Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Fiona yn Athro Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. Mae hi'n gymdeithasegwr ac yn weithiwr cymdeithasol sydd ag arbenigedd mewn datblygu cymunedol, polisi cymdeithasol ac ymchwil ymarferwyr. Dechreuodd Fiona ei gyrfa yn Awstralia, ar ddechrau'r 1980au, fel gweithiwr datblygu cymunedol mewn gofal oed. Yn dilyn hynny, mae hi wedi gweithio mewn swyddi rheoli yn y sector iechyd cymunedol ac wedi dal swyddi polisi mewn sefydliadau anllywodraethol. Fel academydd, mae hi wedi dysgu ac ymchwilio ym meysydd polisi cymdeithasol, datblygu cymunedol a chynllunio cymdeithasol. Daliodd swydd Deon, Ysgol Astudiaethau Cymdeithasol a Pholisi ym Mhrifysgol Flinders, De Awstralia dros y cyfnod 2011-2013. Mae Fiona trwy gydol ei gyrfa wedi bod yn weithgar mewn gwaith cymunedol yn y sector gwirfoddol.