Trosolwg
Mae Dr Meinir Williams yn Diwtor yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Cwblhaodd ei Doethuriaeth mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a bu'n darlithio yno mewn Seineg a Dwyieithrwydd cyn symud i Abertawe yn 2026.
Mae ei hymchwil yn defnyddio dulliau meintiol, e.e. holiaduron torfol, dadansoddiadau acwstig ac arbrofion agweddau ieithyddol i archwilio ynganiad y Gymraeg gan oedolion sy’n dysgu’r iaith, ac agweddau tuag at acenion siaradwyr traddodiadol a newydd. Bu'n diwtor Cymraeg i Oedolion am gyfnod, ac mae'n eiddgar iawn i gefnogi myfyrwyr Ail Iaith.
Yn ogystal ag ymddiddori mewn caffael ieithoedd lleiafrifol mae gan Meinir ddiddordeb mewn datblygu technolegau iaith. Cydweithiodd â'r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Cereproc a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar brosiect yn datblygu lleisiau testun-i-leferydd Cymraeg a Saesneg Cymreig ar gyfer plant sy’n defnyddio dulliau Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC).
Mae Meinir yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).