Dr Miriam Jones

Dr Miriam Jones

Darlithydd yn y Gymraeg, Cymraeg

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987120

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
029
Llawr Gwaelod
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Arbenigedd Miriam yw ffuglen wyddonol y Gymraeg. Enillodd Ysgoloriaeth Ymchwil gan y Coleg Cymraeg i lunio’i doethuriaeth yn y maes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Miriam hefyd yn llenor ac yn ddramodydd. Bu’n rhan o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2018-9. Roedd hi’n un o’r criw aeth ati i sefydlu cylchgrawn Y Stamp yn 2016. Yn ogystal, cyrhaeddodd rhestr fer Nofel Gyntaf Crime Cymru 2022.

Cyn ymuno ag Adran y Gymraeg Abertawe yn 2021, bu Miriam yn gweithio fel newyddiadurwr ac ymchwilydd gyda BBC Cymru Fyw a bu’n Uwch Gyfieithydd yn nhîm cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth Gymraeg
  • Ffuglen Wyddonol
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Cyfieithu
  • Y Gymraeg yn y Gweithle

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Prif ddiddordebau dysgu Miriam yw llenyddiaeth ddiweddar ac ysgrifennu creadigol. Yn sgil ei phrofiadau yn y byd gwaith, mae Miriam hefyd yn cyfrannu at fodiwlau’n ymwneud â Chyfieithu a Chymraeg Proffesiynol.

Ymchwil