Dr Ceri Hughes

Darlithydd Cyfryngau a Chyfathrebu, Media

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
102
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Ceri yn ddarlithydd Newyddiaduriaeth yn Adran Y Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus. Mae'n gwneud ymchwil ym maes cyfathrebu gwleidyddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar wleidyddiaeth pleidiau lleiafrifol, crefydd a gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth ddadleuol a chamwybodaeth.

Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Ysgol Newyddiaduriaeth a Chyfathrebu Torfol Prifysgol Wisconsin-Madison ble roedd hefyd yn Gymrawd Ymchwil  Sefydliad Knight i'r Ganolfan Cyfathrebu ac Adnewyddu Dinesig. Mae'n gyd-awdur llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n archwilio toriadau mewn cyfathrebu dinesig a chymdeithas sifil yn nalaith Wisconsin, ‘Battleground: Asymmetric communication ecologies and the erosion of civil society in Wisconsin

Cyn ymuno ag Abertawe, roedd yn Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd ar astudiaeth a ariannwyd gan AHRC- 'Countering disinformation: enhancing journalistic legitimacy in public service media'. Roedd yr ymchwil hwn yn archwilio i rôl cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus y DU yn yr 'infodemic' presennol, gan gwestiynu eu gallu i weithredu mewn amgylchedd o newyddion ffug a'r ymdeimlad o wirionedd ('truthiness').

Mae ei ymchwil wedi ei gynnwys yn y Washington Post, The ConversationSalon, The New Yorker, Vox a'r Washington Post Monkey Cage, ac mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio.

Meysydd Arbenigedd

  • Newyddiaduriaeth
  • Cyfathrebu Gwleidyddol
  • Camwybodaeth
  • Dulliau Ymchwil
  • Crefydd a Gwleidyddiaeth
  • Dadansoddi Cynnwys