Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Miss Libby Chancer

Miss Libby Chancer

Uwch-ddarlithydd Pwnc (Mathemateg) ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon, Education and Childhood Studies

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606399

Cyfeiriad ebost

248
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Libby Chancer yw’r darlithydd pwnc ar gyfer mathemateg yn yr adran addysg gychwynnol i athrawon. Mae ganddi gefndir mewn addysg fathemateg uwchradd ac addysg gychwynnol a pharhaus i athrawon. Roedd Libby yn gweithio fel athrawes fathemateg mewn ysgol uwchradd am nifer o flynyddoedd cyn dod yn ddarlithydd prifysgol.

Addysg uwchradd yw ei phrif arbenigedd a hefyd mae ganddi brofiad o ddarlithio ar gyrsiau BA mewn Astudiaethau Addysg a TAR Cynradd hefyd.

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys yr egwyddorion a’r addysgeg sy’n berthnasol i addysg fathemateg. Mae ei thraethawd ymchwil doethur yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu disgyblion i feddwl yn haniaethol a sut mae hyn yn eu cefnogi i ddatrys problemau ym maes Mathemateg. Hefyd mae ganddi brofiad o oruchwylio myfyrwyr MA ac addysgu ar raglenni MA.

Ar hyn o bryd Libby yw’r swyddog asesu ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon ac mae ganddi ddiddordeb brwd yn y ffordd y mae darparwyr AGA yn defnyddio data er mwyn tracio a chefnogi cynnydd myfyrwyr drwy gydol eu rhaglenni.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysg Fathemateg

Datrys Problemau

Meddwl yn haniaethol

Damcaniaeth Amrywiad

Addysg Gychwynnol a Pharhaus i Athrawon