Darganfod y cyllid sy'n iawn ar eich cyfer chi
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer benthyciad Ôl-radd gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, neu pe bai’n well gennych barhau gyda’ch astudiaethau heb fenthyg rhagor, mae opsiynau cyllid eraill i’w hystyried. Bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn eich cynorthwyo i ddarganfod ffynonellau amgen o gyllid ôl-radd.
Elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau
Mae nifer fawr o elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau yn cynnig cyllid i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig. Ceir manylion cynhwysfawr y sefydliadau hyn yn The Grants Register (a gyhoeddwyd gan Palgrave Macmillan) a The Directory of Grant Making Trusts (a gyhoeddwyd gan y Charities Aid Foundation), a dylai’r ddau gyhoeddiad fod ar gael trwy wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu yn eich llyfrgell leol.
Y peth pwysicaf yw dod o hyd i’r sefydliadau hynny sy’n berthnasol i chi a/neu i’ch maes pwnc. Wrth i chi chwilio, efallai yr hoffech ystyried yr enghreifftiau canlynol:
- Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael ar sail galwedigaeth eich rhieni neu eich partner. Er enghraifft, os yw un o’ch rhieni, neu’ch partner, yn fferyllydd neu’n groser, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael arian gan Sefydliad Leverhulme. Yn yr un modd, os oes gennych gysylltiad teuluol agos â’r diwydiant rheilffordd, efallai y bydd Cronfa Addysgol EWS yn gallu helpu.
- Mae rhai sefydliadau eraill yn ariannu pobl sy’n byw mewn ardaloedd daearyddol penodol. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Addysgol John Moran yn ariannu trigolion Lerpwl ac mae Ymddiriedolaeth Addysgol Bridge yn cynnig cyllid i fyfyrwyr o Dorset.