Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir Prifysgol Utrecht yn Utrecht yn yr Iseldiroedd, 45 munud mewn car o Amsterdam ac ychydig o dan awr o'r ffin â'r Almaen. Mae'r gaeafau yn Utrecht braidd yn oer gyda thymereddau ychydig o dan y rhewbwynt a cheir hafau cynnes.  Hon yw'r brifysgol fwyaf ac un o'r prifysgolion hynaf yn yr Iseldiroedd. Mae'n un o'r 100 prifysgol gorau yn y byd yn ôl ShanghaiRanking. Nid oes modd gwarantu y bydd llety prifysgol ar gael ar gyfer myfyrwyr cyfnewid a gall gymryd peth amser i ddod o hyd i lety preifat felly byddwch yn barod i ddechrau chwilio'n gynnar.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.